Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awgrymu y bydd Canghellor y Trysorlys yn cyhoeddi yr wythnos nesa’ y bydd S4C yn derbyn mwy o arian.

Mae Cadeirydd Grwp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Carl Morris, eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant yn San Steffan yn dweud eu bod yn “edrych ymlaen” at y cyhoeddiad ddydd Mercher nesa’.

Rhwng 2010 a 2015, gwnaed toriadau o 40% i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain, ac fe dorrwyd 93% o’u grant. Ond roedd maniffesto’r Ceidwadwyr gogyfer ag Etholiad Cyffredinol 2015 yn datgan y byddai’r blaid yn “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C” yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd hon.

“Rydym yn edrych ymlaen at eich cyhoeddiad am y gyllideb ar gyfer S4C dros yr wythnosau nesaf,” meddai Carl Morris at yr Ysgrifennydd Diwylliant, Karen Bradley AS.

“Hyderwn y byddwch chi’n anrhydeddu’r ymrwymiadau clir a wnaed gan y Llywodraeth ynghylch S4C dros y blynyddoedd diwethaf i ddiogelu cyllideb y darlledwr trwy dymor bum mlynedd y Senedd hon.

“Yn wir, yng ngoleuni’r addewidion clir hyn gan eich Llywodraeth, disgwyliwn i chi ddiogelu cyllideb S4C drwy gynyddu eich grant ar ei chyfer, yn ôl chwyddiant, ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd modd i adolygiad y sianel wedyn ystyried y posibiliad o gynnydd pellach yn y gyllideb.”