Bernard Thomas a oroesodd trychineb Aberfan Llun: Y Byd ar Bedwar
Yr wythnos hon mae’n hanner can mlynedd ers un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes Cymru, pan gafodd 144 o bobol eu lladd ym mhentref Aberfan yn ne Cymru.

Bu farw 116 o blant oedd yn ddisgyblion yn ysgol Pantglas ar fore 21 Hydref 1966 wrth i domen lo lithro at yr ysgol.

Roedd Bernard Thomas yn naw oed ac yn yr ysgol y diwrnod hwnnw, ac er iddo oroesi’r trychineb mae’n cydnabod iddo ddioddef effeithiau meddyliol byth ers hynny.

Ar raglen Y Byd ar Bedwar heno, mae’r gŵr 59 oed sydd wedi byw yn yr un tŷ yn Ynysygored, Aberfan yn datgelu sut y mae wedi brwydro iselder ac effeithiau meddyliol ar hyd ei oes.

“Er na chefais i fy mrifo’n gorfforol ddifrifol, ro’n i wedi fy niweidio’n feddyliol ac yn seicolegol,” meddai.

Profion ar yr ymennydd

Pan ddychwelodd y bachgen i’r ysgol ar ôl y trychineb, fe gafodd bedair sesiwn gyda seiciatrydd rhwng 1967 ac 1972.

Mae’r nodiadau hynny a sganiau o’i ymennydd yn dangos annormaledd a’i fod wedi dioddef o syndrom ôl-cyfergyd, ac y gallai ddatblygu epilepsi ôl-drawmatig.

Yn 1973, fe dderbyniodd ei deulu £550 o iawndal am y niwed a brofodd.

Ond dim ond yn 2003, wrth iddo gymryd rhan mewn astudiaeth ar gyfer Prifysgol Caerdydd y cafodd ddiagnosis ffurfiol o ddioddef straen ôl-drawmatig.

Wrth ymateb i nodiadau’r seiciatrydd o’r cyfnod, dywed Bernard Thomas, “fe wnes i yn amlwg gael anafiadau i’r ymennydd, felly mae’n siŵr o gael effaith… fel mae’n dweud yma, mae yna gyfnodau o golli tymer… dw i wedi gwneud llawer o bethau byddai pobol yn eu hystyried yn afresymol.”

Dechrau siarad…

Dywed Bernard Thomas ei fod hefyd wedi dioddef o rywbeth y mae’n ei alw yn “euogrwydd y goroeswr.”

“Mae’n anodd wynebu brodyr a chwiorydd neu rieni’r rheiny a fu farw. Dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma yr ydw i wedi llwyddo i siarad â rhai o’r bobol yna,” meddai.

“Dw i’n dal i feddwl nawr, beth fydden nhw’n wneud petaen nhw dal yma nawr? Pwy fyddai wedi priodi? Ble fydden nhw’n gweithio?”

“Dw i dal yma. Dydyn nhw ddim. Mae’n rhaid inni gofio er mwyn cadw’r atgofion yn fyw.”

Mae rhaglen Trychineb Aberfan: Brwydr Bernard yn cael ei darlledu ar S4C heno (nos Fawrth, 18 Hydref) am 9.30yh.