Cyfarwyddwyr cwmni effeithiau arbennig Real SFX o Gaerdydd, Carmela Carrubba a Danny Hargreaves, yn ennill Emmy eleni Llun: Real SFX
Mae arbenigwyr mewn effeithiau arbennig o Gymru yn dathlu blwyddyn lwyddiannus sy’n cynnwys gweithio ar ffilm ddiweddaraf y cynhyrchydd Martin Scorsese a’r cyfarwyddwr Ben Wheatley, a chipio gwobr Emmy.

Mae cyfarwyddwr Real SFX wedi dweud bod Cymru yn “arweinydd rhyngwladol yn ei faes” a bod gweithwyr y diwydiant yn Los Angeles i gyd yn gwybod am Gymru oherwydd “ei fod yn ffynnu ym myd teledu a ffilm.”

Mae Real SFX wedi ennill cyfres o wobrau eleni gan gynnwys derbyn Emmy yn Los Angeles ar gyfer ‘Effeithiau Gweledol Arbennig Eithriadol mewn Rôl Gefnogol’ ar gyfer rhifyn arbennig o Sherlock yn 2015 ar y cyd â Milk VFX.

Daeth y cwmni i Gymru am y tro cyntaf yn 2009. Symudodd cyfarwyddwyr y cwmni, Carmela Carrubba a Danny Hargreaves eu teulu o Lundain er mwyn sefydlu eu cartref a busnes yng Nghymru.

Dywedodd Danny Hargreaves, a symudodd i Gymru yn 2005 i ddechrau gweithio ar y gyfres Dr Who: “Roeddwn yn rhan o genhedlaeth o Lundain a welodd gyfle yng Nghymru a chymryd y cyfle i symud. Nawr, mae’r wlad yn arweinydd rhyngwladol yn ei faes.

“Roedd pawb eisiau siarad am Gymru yn yr Emmys. Maent am wybod am Gymru gan ei fod yn ffynnu ym myd teledu a ffilm. Mae gennym gymaint o raglenni yn cael eu creu yma ac mae llawer mwy i ddod.”

Torri record gyda Martin Scorsese

Yn ddiweddar, enillodd prosiect ffilm ddiweddaraf Real SFX, Free Fire gan Martin Scorsese, wobr Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Toronto.

Ychwanegodd Danny Hargreaves: “Rydyn ni’n sicr wedi torri record y byd gyda’r ffilm ar gyfer nifer yr ergydion bwled, ffrwydradau a rigiau gwaed i gyd ar un lleoliad dros gyfnod o saith wythnos! Rydym wedi bod yn lwcus i deithio ar draws y byd gyda Free Fire ac yn edrych ymlaen at y perfformiad cyntaf erioed yng Ngŵyl Ffilm Llundain y mis hwn.

“Rydym yn falch iawn o’n gwaith yng Nghymru – ac yn falch o fod yn cymryd ein tîm o Gymru ar draws y byd trwy’n gwaith. Mae wedi cymryd ugain mlynedd i gyrraedd y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw ac rydym mor hapus bod ein gwaith caled wedi ei gydnabod.”

Mae Real SFX wedi darparu effeithiau arbennig ar gyfer Doctor Who, Free Fire, Peaky Blinders, Outlander, Sherlock, The Collection, Lady Chatterley’s Lover, Houdini and Doyle, Da Vinci’s Demons, Galavant, Mr Nice a Happy Valley ymysg eraill.