Mae’r ffilm By Any Name gan gwmni Tanabi o Abertawe wedi derbyn rhagor o gydnabyddiaeth – y tro hwn yn yr ŵyl ffilm ryngwladol ‘Action on Film’.

Mae’r ffilm, sydd â’r actorion Samira Mohamed Ali a Cengiz Dervis yn serennu ynddi, wedi’i dewis o blith cannoedd y ymgeiswyr ar gyfer trydedd rownd yr ŵyl.

Bwriad yr ŵyl yw denu sgriptwyr, cynhyrchwyr, actorion a chyfarwyddwyr a rhoi hwb i’w gyrfaoedd.

Dywedodd Cyfarwyddwyr ‘Action on Film’, Del Watson: “Bydd hi’n braf cael dangos By Any Name, y ffilm gyntaf o Gymru fel rhan o’n gŵyl ryngwladol. Bydd rhai o’r ffilmiau’n ymddangos ar fy sioe deledu ‘Del Watson Action on Film’ ledled America.”

Daw’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf i’r ffilm yn dilyn ei henwebiad yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, a bydd hi’n cystadlu am wobr BAFTA Cymru yn 2017.

Hynod o falch

Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Euros Jones-Evans: “Rydym ni’n hynod o falch bod ffilm leol, sydd wedi cael derbyniad gwresog yng Ngŵyl Ffilmiau Caerfyrddin yn ddiweddar, nawr yn cystadlu gyda’r gorau yn y byd.

“Mi fydd hi’n braf iawn gweld beth fydd yr ymateb i By Any Name draw yn Monrovia, yng Nghaliffornia.

“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’r cast a’r criw i gyd, yn enwedig i’r ddau brif actor – Cengiz Dervis, sy’n chwarae John West a Samira Mohamed Ali sy’n chwarae rhan Doctor Elizabeth Santer, am eu hymroddiad llwyr i’r prosiect hwn o wneud ffilm annibynnol fel hon.”

Ychwanegodd Katherine John, awdures y nofel y cafodd y ffilm ei seilio arni: “Mae’n fraint mawr fod By Any Name wedi ei dewis ar gyfer gŵyl sydd mor adnabyddus ac enwog.

“Mae tîm cynhyrchu Tanabi wedi gweithio mor ddygn i gwblhau’r prosiect hwn, ac wedi dod a’m nofel yn fyw mewn modd eithriadol. Roedd hi’n fraint cael cydweithio gyda nhw.”

Mae modd dilyn hynt a helynt y ffilm ar wefannau cymdeithasol Twitter drwy fynd i @ByAnyName neu @TanabiFilms, ac ar Facebook ‘By Any Name Movie’.