Aled Haydn Jones
Mae’r cynhyrchydd radio a ddaeth yn enwog am gydweithio â Chris Moyles ar Radio 1, cyn dod yn sylwebydd ar raglen realaeth Big Brother, wedi cyhoeddi ei ddyweddïad ar wefan Twitter.

Ar ddydd ei ben-blwydd, fe gyhoeddodd Aled Haydn Jones, sy’n dod yn wreiddiol o Aberystwyth, bod ei gariad, Emile, wedi gofyn iddo ei briodi… a’i fod yntau wedi dweud ‘ie’.

“Mae’n ymddangos fod gan Emile yr anrheg pen-blwydd perffaith ar fy nghyfer,” meddai ar Twitter, gan gyhoeddi llun o’r fodrwy syml. “Ac fe ddywedais innau ‘gwnaf’!”