Llun: S4C
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw am roi Awdurdod S4C yn gyfrifol am ragor o sianeli teledu, gorsafoedd radio a phlatfformau ar-lein Cymraeg heddiw ar faes y Brifwyl.

Bydd y mudiad yn cynnal trafodaeth ar ddyfodol y sianel genedlaethol, ac yn enwedig ar adolygiad annibynnol Llywodraeth Prydain o’r sianel, fydd yn digwydd yn 2017.

Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C, Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith a Siân Powell, darlithydd y Cyfryngau a Datganoli’r Coleg Cymraeg, fydd yn rhan o’r drafodaeth.

Ymhlith y pynciau trafod eraill, fydd ‘ymgyrch marchnata’ dadleuol S4C i roi is-deitlau Saesneg gorfodol ar rai o raglenni’r sianel am wythnos ym mis Mawrth.

“Cyfle i neidio ymlaen”

Yn ôl Jamie Bevan, mae’r adolygiad yn 2017 yn “cynnig cyfle i S4C neidio ymlaen”, a bod y ffrae is-deitlau yn amlygu’r ‘cyfyngiadau’ sydd ar S4C i geisio darparu rhaglenni ar un sianel yn unig.

“Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i S4C wneud naid fawr ymlaen,” bydd disgwyl iddo ddweud yn y drafodaeth.

“Aberthodd nifer yn fawr i sefydlu’r darlledwr, ond mae’n bryd i ni edrych ymlaen ac i fod yn fwy uchelgeisiol. Mae newid mawr wedi bod, ac yn parhau, o ran patrymau defnydd y cyfryngau.”

Yn ôl Jamie Bevan, mae darlledwyr yng Ngwlad y Basg yn cynnal gwasanaethau ar draws gwahanol blatfformau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, ac mae’n bryd i S4C ddilyn eu hesiampl.

“Pam na ddylai Awdurdod S4C fod yn gyfrifol am ail sianel deledu, gwasanaeth radio a phlatfform arall ar-lein?”

Mae disgwyl iddo hefyd godi un o alwadau Cymdeithas yr Iaith, sef i ddatganoli maes darlledu i Gymru.

Croesawu Pump

Bydd Cymdeithas yr Iaith hefyd yn croesawu’r sianel ar-lein newydd sydd dan S4C, sef Pump, sydd wedi cael degau ar filoedd o bobol yn gwylio ers ei sefydlu ym mis Ebrill eleni.

Yn ôl Jamie Bevan, mae angen i S4C “ehangu eu gorwelion” ymhellach, a hynny “mewn modd strategol”.

“Nid amddiffyn un sianel yw nod Cymdeithas, ond gweld y Gymraeg ar bob platfform – cael popeth yn Gymraeg,” meddai.

“Angen sicrwydd ariannol”

Ac wrth sôn am ariannu’r sianel, mae bellach angen “sicrwydd ariannol hirdymor ar S4C,” meddai, gyda “fformiwla ariannu mewn statud sy’n cynyddu, fan lleiaf, gyda chwyddiant.”

“Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf, ac mae’n rhaid sicrhau bod ganddi’r adnoddau, y sicrwydd a’r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn ei datblygu.”

Bydd y drafodaeth S4C – Sianel Pwy? yn dechrau am 2 o’r gloch prynhawn ‘ma ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.