Llun: S4C
Gan edrych tuag at Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Prydain o S4C, mae’r sianel genedlaethol wedi cyhoeddi holiadur i bobol gael lleisio eu barn ar yr arlwy.

Bydd yr adolygiad yn digwydd yn 2017, ac mae’r holiadur ar-lein ‘Dweud eich Dweud’ yn gyfle i wylwyr gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol S4C, meddai’r sianel.

Mae’n debyg bydd yr adolygiad yn edrych ar waith a rôl S4C, a’r math o wasanaeth sy’n debyg o fod ei angen yn y dyfodol, yn enwedig o fewn cyd-destun ariannu.

Roedd adroddiad blynyddol S4C yn dangos bod mwy o bobol yn gwylio rhaglenni ar-lein ond bod llai yng Nghymru yn gwylio ar deledu erbyn hyn.

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, ei fod yn gobeithio gweld y tuedd i fynd ar-lein yn cael ei adlewyrchu yn adolygiad y Llywodraeth.

Gwasanaeth aml gyfryngol

Ac wrth sôn am yr holiadur, dywedodd fod  y sianel yn “awyddus iawn” i weld “pa fath o wasanaeth mae pobl eisiau ei weld a pha wasanaeth aml gyfryngol fydd ei angen ar siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.”

“Ein gobaith yw y bydd yr Adolygiad yn ystyried hyn yn ofalus ynghyd â sut y gall S4C ddarparu ac ariannu gwasanaeth sy’n cwrdd â’r gofynion hyn ar sail ddiogel yn ystod y ddeng mlynedd nesaf,” meddai.

Mae’r holiadur ar gael ar wefan S4C, ac yn debygol o fod ar agor tan o leiaf diwedd mis Medi.

Bydd swyddogion y sianel hefyd yn holi barn pobol ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni’r wythnos nesaf.