Meri Huws - cyfarfod brys
Fe fydd cyfarwyddwr BBC Cymru yn cael cyfarfod brys gyda Chomisiynydd y Gymraeg heddiw, yn dilyn cwynion bod rhaglen Week In Week Out yn “rhagfarnllyd” yn erbyn y Gymraeg.

Fe fydd Rhodri Talfan Davies a Meri Huws yn cwrdd ei chais hi, yn dilyn protest gan Gymdeithas yr Iaith y tu allan i swyddfeydd y gorfforaeth yng Nghaerdydd ddoe.

Mae BBC Cymru wedi cydnabod nad oedd y rhaglen ‘The Cost of Saving the Welsh Language’ wedi “archwilio’r gwahanol safbwyntiau yn ddigonol.”

Dywedodd llefarydd hefyd eu bod wedi derbyn “nifer o gwynion” am y rhaglen.

‘Angen cyrsiau’

Cafodd Cymdeithas yr Iaith gyfarfod â Rhodri Talfan Davies ddoe, pan wnaeth yr ymgyrchwyr bwyso arno i gyflwyno cyrsiau ymwybyddiaeth iaith i’w holl staff.

“R’yn ni’n credu bod  problem sylfaenol gyda chysyniad y rhaglen ac rydyn ni’n pryderu bod materion ehangach am ymdriniaeth y BBC o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.