Steffan Alun
Daeth taith criw o ddigrifwyr Cymraeg i ben yn Theatr Richard Burton yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd nos Sadwrn, wrth iddyn nhw ffilmio noson olaf y daith, ‘Extravaganza Stand-yp’ ar gyfer rhaglen ‘Gwerthu Allan’ ar S4C. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n holi un o’r digrifwyr, Steffan Alun ar ddiwedd y sioe am ei waith fel digrifwr yn Gymraeg a Saesneg.

Alli di ddisgrifio dy deimladau ar ddiwedd noson ola’r daith?

Gweld sêr yn llwyr. Aeth hwnna mor glou ac mor araf ar yr un pryd. O’dd e’n teimlo fel arholiad diwedd blwyddyn. Ni ’di bod ar daith yn paratoi’r stwff ’ma, ond hefyd ar y llaw arall, mae’n teimlo hefyd bo ni ’di bod yn datblygu comedi yn Gymraeg ers cymaint o amser fel bod e hefyd yn teimlo fel penllanw i hynny. ’Na’r gig gorau i fi gael erioed, fi’n credu, ond ’na’r caleta fi ’di gorfod gweithio ’fyd. O’dd e’n bleser gwneud y gig ond mewn ffordd, fi’n falch bod e drosodd.

Roedd nifer o gyfeiriadau at y Noson Lawen yn y sioe. Ydy comedi Cymraeg wedi symud ymlaen ac i ffwrdd o hynny erbyn hyn?

Fi’n credu. Fi’n credu bod comedi Cymraeg yn datblygu mor glou ar hyn o bryd. Ni ’di gweld comedi Saesneg yn datblygu dros ddegawdau. Mae e fel bod comedi Cymraeg yn dala lan mor glou. Pan ddechreuais i bum mlynedd yn ôl, y noson Gymraeg gynta wnes i, fi oedd yr unig ddigrifwr ar y bil. O’dd ’da ti rywun yn canu, rhywun yn dweud jôcs traddodiadol. Fi o’dd yr unig stand-yp yn dweud straeon doniol. Nawr, mae ’da ni noson fel hon lle mae ’da ni ddwsin o ddigrifwyr gwreiddiol Cymraeg yn gwneud eu stwff gwreiddiol eu hunain. Fi’n credu bo ni mewn sefyllfa gref iawn ar hyn o bryd.

Fel comedïwr yn Gymraeg a Saesneg, sut wyt ti’n addasu i weithio am yn ail rhwng y ddwy iaith?

I fod yn onest, sai’n ffindo’r peth yn rhy anodd. Fi’n ddwyieithog, fi’n rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’r deunydd fwy neu lai yn gwbl wahanol yn y ddwy iaith. Sai’n un sy’n cyfieithu o un i’r llall. Fi’n datblygu stwff gwreiddiol yn Gymraeg a stwff gwreiddiol yn Saesneg. Ond ar y llaw arall, mae e yn od. O’n i’n fan hyn heno, a fory, bydda i mewn clwb yn Brighton yn Saesneg lle fydd neb yn gwybod pwy ydw i. Mae e’n brofiad gwahanol, ond dyna hwyl y peth, wir.

Ydy e’n wendid gan rai comediwyr eu bod nhw’n cyfieithu eu deunydd?

Sai’n credu fod e’n wendid. Mae arddull pawb yn wahanol. Mae systemau pawb yn wahanol. I fi, dyw’n stwff Saesneg i, am ba reswm bynnag, ddim yn gweithio cystal yn Gymraeg. Ond fi’n credu, hyd yn oed tase fe yn gweithio, mae’n well ’da fi fynd ar ôl stwff Cymreig cynhenid, stwff sy ddim ond yn gallu digwydd yn Gymraeg. Mae ’na lot o rwystrau’n wynebu adloniant yn Gymraeg a fi’n credu i oresgyn y rhwystrau ’na fod rhaid manteisio ar y cryfderau. Un o gryfderau comedi Cymraeg yw bod llwyth o bynciau sy erioed wedi cael eu trafod ar lwyfan gan ddigrifwr o’r blaen. Mae’n bleser cael mynd ar ôl y pynciau hynny.

Wyt ti’n teimlo bod mwy o bwysau arnat ti pan wyt ti o flaen y camerâu?

Yn bendant. Os oes rhywbeth yn mynd o’i le mewn gig byw, alli di handlo’r peth a gwneud jôc a bron â bod torri ma’s o gymeriad a gwneud jôc am y peth. Os oes rhywbeth yn methu mewn stafell o flaen cynulleidfa, os yw’r gynulleidfa ddim yn chwerthin, rhaid i ti gadw at y sgript achos mae’r camerâu’n bwysicach. Y gynulleidfa gartre sy’n bwysig mewn gig fel hyn. Cwpwl o gannoedd oedd yn y stafell yn fyw, ond miloedd yn gwylio.

Bydd chwe rhaglen yn y gyfres newydd o ‘Gwerthu Allan’ ar S4C, ac fe fydd rhagor o raglenni’n cael eu ffilmio yn yr hydref. 13 o ddigrifwyr fydd yn cymryd rhan yn y gyfres i gyd.

Mae Steffan Alun yn cyflwyno’i noson Saesneg ei hun yn Tino’s ar Wind Street yn Abertawe. Fe fydd e’n ymddangos yn nosweithiau Goreuon Comedi Cymraeg ngŵyl gomedi Machynlleth y penwythnos nesaf (Ebrill 29-Mai 1) ynghyd â Phil Cooper, Karen Sherrard, Beth Jones, Geth Robyns, Chris Chopping, Jams Thomas a llawer mwy.