Phil George
Cyhoeddwyd heddiw mai Phil George sydd wedi’i benodi’n gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd ei gyfnod yn y swydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2016, a bydd yn para am dair blynedd. Mae’n olynu’r Athro Dai Smith, sydd wedi bod yn gadeirydd y Cyngor Celfyddydau Cymru ers naw mlynedd.

Dr Phil George yw cydsefydlydd a chyfarwyddwr creadigol y cwmni cynhyrchu teledu, Green Bay Media. Roedd hefyd yn gadeirydd cwmni theatr National Theatre Wales.

Annog pobol i gymryd rhan

Fel cadeirydd, bydd Dr Phil George yn gyfrifol am gyfarwyddo a rheoli Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd hefyd yn ystyried ffyrdd eraill y gall Cyngor y Celfyddydau barhau i annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau.

“Mae’n anrhydedd cael y cyfle hwn i wasanaethu’r celfyddydau yng nghymdeithas Cymru, a hoffwn hefyd fynegi fy ngwerthfawrogiad dwfn o arweinyddiaeth Dai Smith, a’r hyn a gyflawnodd fel Cadeirydd,” meddai.

“Rwy’n argyhoeddedig y gall rhagoriaeth, mentrusrwydd ac arloesedd yn y Celfyddydau fynd law yn llaw ag ymrwymiad i fynediad a chyfranogiad gweithredol ar hyd a lled cymunedau amrywiol ein gwlad. Mae gan y celfyddydau y gallu unigryw i roi proffil rhyngwladol i Gymru trwy rym y dychymyg.”