James Murdoch
Mae James Murdoch wedi dychwelyd yn Gadeirydd cwmni Sky, pedair blynedd ers ymddiswyddo o’r rôl yn dilyn yr achos hacio ffonau.

Roedd mab ieuengaf Rupert Murdoch, sydd bellach yn 84 oed, wedi bod yn Brif Weithredwr ar un o gwmnïau eraill ymerodraeth gyfryngol ei dad, 21st Century Fox, ers mis Gorffennaf.

Fe fydd y mab 43 oed yn dychwelyd i’r swydd roedd yn ei dal rhwng 2007 a 2012, ar ôl bod yn Brif Weithredwr ar y cwmni am bedair blynedd cyn hynny.

Ymddiswyddodd James Murdoch ym mis Ebrill 2012 ar ôl y sgandal hacio ffonau arweiniodd at gau papur newydd The News Of The World.

Twf diweddar

“Mae gan James wybodaeth eang o’r diwydiant cyfryngol ac fe fydd ei ymroddiad tuag at gynnal llwyddiant parhaol Sky yn gwneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy tuag at ein busnes yn y dyfodol,” meddai Prif Weithredwr Sky Jeremy Darroch wrth groesawu’r penodiad.

Er gwaethaf mwy o gystadleuaeth gan gwmnïau fel BT yn ddiweddar, roedd y cynnydd yn nifer cwsmeriaid Sky ar ei uchaf ers degawd yn y chwarter diwethaf, tra bod eu helw o £747m 12% yn uwch.