Catherine Zeta Jones
Mae’r actores o Abertawe, Catherine Zeta Jones wedi cyfaddef ei bod yn braf cael dod yn ôl i’r DU ar gyfer y dangosiad cyntaf o’r ffilm ‘Dad’s Army’ newydd.

Mae’r Gymraes yn chwarae rhan y newyddiadurwraig Rose Winters, sy’n mynd i Walmington-on-Sea i ddysgu mwy am hanes y Gwarchodlu Cartref adeg yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r ffilm yn addasiad o’r gyfres boblogaidd a gafodd ei darlledu ar y BBC rhwng 1968 a 1977.

Cafodd y cast, sydd hefyd yn cynnwys Toby Jones, Bill Nighy, Bill Paterson, Syr Tom Courtenay a Syr Michael Gambon, y cyfle i weld y ffilm am y tro cyntaf nos Fawrth yn Leicester Square.

‘Ovaltine’

Yn ymuno â’r cast yn y ffilm mae dau o’r actorion gwreiddiol o’r gyfres – Frank Williams (Reverend Timothy Farthing) ac Ian Lavender (oedd yn chwarae Pike), sydd â rhan fach yn y ffilm.

Dywedodd Catherine Zeta Jones fod cael bod yn ôl i wledydd Prydain fel “dod adref i gwpanaid o Ovaltine”.

Wrth drafod y ffilm, ychwanegodd yr actores, sydd bellach yn byw yn Los Angeles gyda’i gŵr, yr actor Michael Douglas a’u plant: “Roedd yn bopeth yr oeddwn i’n gobeithio y byddai, roedd yr holl actorion gwych yma, roedden nhw’n gwybod eu llinellau ac yn gwybod beth oedden nhw’n ei wneud.

“Roedden ni’n chwerthin drwy’r cyfan ac fe wnaeth fy atgoffa gymaint rwy wrth fy modd cael bod yn y DU i weithio a bod ymhlith actorion Prydeinig.”

Bydd y ffilm yn ymddangos mewn sinemâu am y tro cyntaf ar Chwefror 5.