O wefan y wobr
Mae’r sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal gŵyl ffilmiau byrion lesbaidd, hoyw, deurywiol a thraws fwyaf y byd, wedi ennill grant i lansio prosiect cymunedol newydd.

Fe fydd Iris yn y Gymuned yn mynd am dair blynedd i ddechrau ac yn cynnwys 36 o gymunedau ledled Cymru – hynny’n ychwanegol at y brif ŵyl yng Nghaerdydd.

Fe fydd pob prosiect yn cynnwys cynhyrchu ffilm fer a chreu gŵyl ffilm yn y gymuned gyda’r nod o feithrin goddefgarwch a dealltwriaeth o gymunedau lesbaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymru.

Mae’r prosiect wedi derbyn grant o £247,462 gan y Gronfa Loteri Fawr.

‘Deall amrywiaeth’

“Mae ffilm yn gyfrwng democrataidd sydd, yn ein profiad ni, yn galluogi pobl i fynegi syniadau am sut maen nhw’n teimlo,” meddai Andrew Pierce, Cadeirydd Gwobr Iris.

“Bydd y prosiect uchelgeisiol yma yn mynd â ni i nifer o gymunedau ac rwy’n gobeithio yn y pen draw y byddwn ni wedi helpu miloedd o bobl i ddeall amrywiaeth cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, gan arwain at well perthnasau yn ein cymunedau.”

Cyflogi tri

Y flwyddyn nesaf, bydd Gwobr Iris yn dathlu ei dengmlwyddiant ac mae’r cyllid newydd wedi galluogi’r sefydliad i gyflogi tri aelod o staff.

Un o’r rheiny yw Mark Williams, hwylusydd prosiect Iris yn y Gymuned, a dywedodd ei fod yn
“edrych ymlaen yn arw at ddechrau rhannu’r prosiect uchelgeisiol yma gyda chymunedau ledled Cymru.”

Mae Iris yn y Gymuned eisoes wedi dechrau gweithio gyda rhai grwpiau ond maen nhw’n awyddus  i glywed gan grwpiau cymunedol eraill fel  grwpiau eglwysi, grwpiau ieuenctid, cyflogwyr ac undebau a fyddai’n hoffi cymryd rhan yn y prosiect.