Mae S4C, BBC ALBA a’r sianel Wyddelig TG4, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n uno er mwyn cynhyrchu cyfres hamdden newydd a fydd ar gael ar gyfer cynulleidfa’r tri darlledwr.

Maen nhw’n bwriadu creu cyfres uchelgeisiol ac apelgar a fydd yn gallu cael ei haddasu ar gyfer gwylwyr yn y tair gwlad, ac i’r farchnad ryngwladol hefyd.

Maen nhw’n galw felly ar unigolion a chynhyrchwyr teledu i gyflwyno syniadau “ffres ac unigryw” a fydd yn apelio at ystod eang o wylwyr erbyn y dyddiad cau, 30 Hydref 2015.

Yn dilyn hyn, bydd un syniad yn cael ei ddewis ac yn derbyn gwerth £15,000 o arian i ddatblygu  cynllun peilot erbyn dechrau 2016.

‘Celtiaid creadigol…’

“Dwi wrth fy modd i gael cyd-weithio â chyfoedion yn BBC ALBA a TG4 ar y fenter gyffrous hon,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C.

“Mae rhaglenni hamdden yn chwarae rôl bwysig yn rhan o amserlen adloniant bywiog ac atyniadol, ac mae’n faes y mae S4C yn ymdrechu i ehangu arno ar gyfer y dyfodol.”

Fe ddywedodd y bydd y fenter yn dod â budd i’r gwylwyr ar draws y tair cenedl yn eu hieithoedd ein hunain, ac yn gyfle i gynhyrchwyr ddatblygu eu syniadau a chreu fformatau hyblyg  sydd â’r potensial i ehangu.

Mae gan S4C brofiad yn y maes hwn, am eu bod wedi datblygu fformatau adloniant gyda chwmni Sony Pictures Television yn flaenorol, ac wedi cydweithio â STV yn Yr Alban a TV3 yn Iwerddon wrth gynhyrchu’r cwis Celwydd Noeth (fersiwn Gymraeg o The Lie).

‘Herio a chyffroi’

Roedd Margaret Cameron, Golygydd Sianel BBC ALBA, sianel deledu yn yr iaith Gaeleg yn “gobeithio’r fawr y bydd cynhyrchwyr rhaglenni ym mhob un o’r gwledydd yn cyflwyno syniadau fydd yn ein herio ac yn ein cyffroi.”

Roedd Máire Ní Chonláin, Golygydd Comisiynu TG4 – darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn yr iaith Wyddeleg – yn cytuno hefyd.

Fe ddywedodd: “mae’r Celtiaid yn bobol greadigol ac yn llawn dychymyg, ac wrth uno’r darlledwyr o Gymru, Yr Alban ac Iwerddon, gallwn edrych ymlaen at ddarganfod syniadau adloniant gafaelgar fydd yn gweithio nid yn unig ar gyfer ein sianeli ni ond a fydd yn gallu teithio’r byd hefyd.”