Y cyfarwyddwr Euros Lyn a enillodd Gwobr Sian Phillips Llun: Huw John
Mewn seremoni arbennig yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd neithiwr, cyhoeddwyd pwy oedd enillwyr gwobrau BAFTA Cymru am eleni.

Cyflwynydd y seremoni oedd Huw Stephens, a chafodd 24 gwobr BAFTA Cymru eu cyflwyno gan enwogion gwahanol.

Mae’r prif enillwyr yn cynnwys Set Fire to the Stars a Jack to a King a enillodd tair gwobr yr un, gyda’r ddwy wedi’u cynhyrchu yn Abertawe.

Fe enillodd A Poet in New York a Da Vinci’s Demons hefyd ddwy wobr yr un.

Richard Harrington enillodd gwobr Actor BAFTA Cymru am ei bortread o DCI Tom Matthias yn y ddrama Gymraeg, Y Gwyll/Hinterland, sydd wedi ennill clod ar lwyfan rhyngwladol.

Rhian Morgan enillodd gwobr Actores BAFTA Cymru am ei phortread o Gwen Lloyd ar y gyfres Gwaith/Cartref.

Enillodd Y Streic a Fi y categorïau Cyfarwyddwr Ffuglen a Drama Deledu, a gwobrwywyd Roger Williams fel Awdur BAFTA Cymru am ei waith ar y ddrama Tir.

Categorïau Ffeithiol

Ar gyfer y categorïau rhaglenni ffeithiol, enillodd Jamie Baulch y wobr am Raglen Ddogfen Sengl am Looking for my Birth Mum, ac enillodd Adam Price a Streic y Glowyr y wobr am Gyfres Ffeithiol.

Y Byd ar Bedwar enillodd y wobr Materion Cyfoes am y drydedd flwyddyn yn olynol, a gwobrwywyd Rhod Gilbert am ei waith wrth gyflwyno’r rhaglen Rhod Gilbert’s Work Experience.

Enillodd Clare Sturges y wobr Torri Drwodd am gynhyrchu a chyfarwyddo’r rhaglen ddogfen, Sexwork, Love and Mr Right.

Euros Lyn oedd enillydd Gwobr Siân Phillips eleni, a daeth y seremoni i ben wrth anrhydeddu Gwobr BAFTA i Menna Richards OBE, Rheolwr BBC Cymru Wales rhwng 2000 a 2011 am ei chyfraniad arbennig i deledu.

‘Annog ac ysbrydoli’

“Wrth i BAFTA Cymru ddechrau ar ei 25 blynedd yn dathlu a hyrwyddo diwydiant y cyfryngau creadigol yma yng Nghymru, mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cymaint o ehangder o ran cynnwys a dawn yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru heno,” meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru.

Fe ddywedodd fod cynrychiolaeth dda o’r sector cynhyrchu annibynnol i’w gael yng Nghymru, a bod BAFTA Cymru yn edrych ymlaen at “annog ac ysbrydoli pobol ddawnus sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, i fod yn rhan o’r diwydiant rhyfeddol hwn.”

‘Talent aruthrol’

Mae S4C yn dathlu derbyn 13 o wobrau BAFTA Cymru yn dilyn noson lwyddiannus yn y seremoni wobrwyo.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu: “Llongyfarchiadau i bawb am eu llwyddiant yng ngwobrau’r BAFTA’s neithiwr a hynny ar draws sawl genre.

“Mae hyn yn brawf pendant o’r dalent aruthrol sydd yn y sector gynhyrchu annibynnol ac yn BBC Cymru a ITV Wales. Mae’r braf hefyd fod safon darpariaeth gynnwys S4C yn cael eu cydnabod yn y fath fodd.”