Y Gwyll
Mae’r nifer sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi dyblu rhwng 2005 a 20014 i bron i 50,000, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ac ar drothwy seremoni wobrwyo BAFTA Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sul, mae Gweinidog yr Economi wedi galw am fwy o dwf eto.

Mae hybu’r Diwydiannau Creadigol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac erbyn hyn dyma un o’r sectorau economaidd sy’n tyfu gyflymaf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart:

“Ein huchelgais ni yw sefydlu Cymru fel canolfan ragoriaeth ar lefel ryngwladol i gynyrchiadau drama teledu a ffilm. Mae’n dda gweld cystal safon i’r cynyrchiadau sydd wedi’u henwebu gan BAFTA Cymru ac rwy’n falch ein bod wedi gallu rhoi cymorth i lawer ohonynt.

“Rydyn ni wedi rhoi blaenoriaeth i annog twf y sector diwydiannau creadigol, gan gefnogi amrywiaeth o fentrau, e.e. y brydles a sicrhawyd yn ddiweddar ar Dragon Studios Pencoed gan Fox Television Studios 21; Pinewood Studio Wales  neu gwmni cynhyrchu newydd Bad Wolf Production.

“Rydyn ni’n arbennig o falch o ganlyniadau positif ein buddsoddiad; mae’r diwydiant yng Nghymru wedi tyfu’n gyflymach nag yn Lloegr dros yr un cyfnod. Ac mae’r cynyrchiadau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru wedi gwario £32 miliwn yn 2014, gan ddod â manteision economaidd sylweddol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddenu mwy byth o gynyrchiadau drama teledu rhyngwladol. Bydd hynny’n cynyddu sgiliau’r doniau lleol ac yn parhau i ddod â manteision economaidd ehangach i’r wlad gyfan.”

Ymysg yr enwebiadau ar gyfer gwobrwyon BAFTA eleni, fe gafodd Y Gwyll, Dan y Wenallt a Da Vinci’s Demons nawdd gan Lywodraeth Cymru.