Mae BT Sport wedi cipio’r hawl i ddarlledu cyfres nesaf y Lludw o Awstralia yn 2017.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda bwrdd Criced Awstralia.

Mae hyn yn golygu y bydd holl gemau criced Awstralia yn cael eu dangos yn y Deyrnas Unedig hyd at 2021 gan BT Sport.

Does dim cadarnhad faint mae BT Sport wedi talu am yr hawliau, ond mae disgwyl bod y ffigwr tua £80 miliwn.

Dyma’r  bennod ddiweddaraf yn y gystadleuaeth rhwng BT Sport a Sky am hawliau darlledu chwaraeon. Sky oedd yn darlledu gemau criced Awstralia nes y cytundeb newydd yma.

Meddai Delia Bushell, rheolwr gyfarwyddwr teledu BT a BT Sport eu bod yn “falch iawn” o ychwanegu criced rhyngwladol at y rhestr o chwaraeon maen nhw’n ei  ddangos.

Dywedodd Ben Amarfio o Griced Awstralia bod BT Sport wedi gwneud cais “nerthol” i ddarlledu criced o Awstralia i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig.

Beirniadaeth

Ond mae’r cytundeb wedi ennyn beirniadaeth gydag arbenigwyr yn y maes yn dweud byddai gwylwyr yn anhapus gorfod talu gwahanol gwmnïau i wylio chwaraeon.

Dywedodd Ewan Taylor Gibson, arbenigwr band eang a theledu i’r cwmni uSwitch,: “Yn y tymor byr, mae’n gadael  gwylwyr yn rhwystredig ac yn gyffredinol ar eu colled oherwydd eu bod yn gorfod talu am ddau wasanaeth yn hytrach nag un.”