Rhodri Talfan Davies
Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg ‘erioed wedi bod mor bwysig’, yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru fydd yn rhan o drafodaeth ar y pwnc ar faes yr Eisteddfod heddiw.

Mae disgwyl i Rhodri Talfan Davies bwysleisio’r achos dros fuddsoddi arian cyhoeddus i gefnogi darlledu cyfrwng Cymraeg, wrth i gwestiynau am ei dyfodol ariannol barhau.

Ar y panel hefyd fydd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, yr Athro Sioned Davies, pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Dr Rhodri ap Dyfrig, arbenigwr yn y cyfryngau torfol.

“Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg ar draws y radio, y teledu a’r rhyngrwyd erioed wedi bod mor bwysig,” meddai Rhodri Talfan Davies cyn y drafodaeth.

“Ac nid yw’r achos ar gyfer buddsoddi arian cyhoeddus i’w gefnogi, erioed wedi bod mor glir.”

‘Argyfwng mwyaf difrifol ers sefydlu S4C’

Bydd y bargyfreithiwr a’r darlledwr Gwion Lewis hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan rybuddio  gallai dyfodol yr unig sianel Gymraeg fod yn y fantol dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae darlledu cyfrwng Cymraeg yn wynebu ei argyfwng mwyaf difrifol ers sefydlu S4C ym 1982,” meddai.

Mae’r drafodaeth yn cael ei chynnal ar stondin Prifysgol Caerdydd am 12.00yp dydd Llun, 3 Awst ar y cyd â BBC Cymru Wales, S4C, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Rondo Media.