Chris Bryant - galw am wybodaeth
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi gofyn am wybodaeth am gyfarfodydd rhwng y Canghellor a phennaeth cwmni Newscorp, Rupert Murdoch.

Hyn ar ôl i bapur newydd yr Independent honni bod George Osborne wedi cael cyfarfod gyda’r teicŵn cyfryngau ychydig cyn cyhoeddi toriad ariannol gwerth tua £650 miliwn ar y BBC.

Yn ôl Chris Bryant, AS y Rhondda a’r llefarydd Llafur ar ddiwylliant, mae wedi sgrifennu at y Canghellor yn gofyn am fanylion y cyfarfodydd a nodiadau o’r drafodaeth.

‘Cyhoeddwch ar unwaith’

Rupert Murdoch yw un o feirniaid penna’r BBC  ac, yn ༴l yr Independent, roedd wedi cael cyfarfod gyda George Osborne ychydig cyn i hwnnw gyhoeddi y byddai’n rhaid i’r Gorfforaeth gymryd y gost o dalu am drwyddedau teledu am ddim i bensiynwyr.

Er bod gwybodaeth am gyfarfodydd gweinidogion yn cael ei chyhoeddi, mae Chris Bryant wedi gofyn am gyhoeddi’r manylion ar unwaith.

Mae hefyd wedi gofyn am unrhyw alwadau ffôn a chysylltiadau eraill a fu rhwng y ddau ddyn.

Fe fydd yn gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth, meddai, ond yn gofyn am i’r wybodaeth gael ei chyhoeddi heb hynny.