Y frwydr rhwng Marvel a DC (llun: YouTube)
Aled Illtud sydd yn asesu brwydr y ffilmiau comig, ac yn holi ble mae’r merched a’r lleiafrifoedd ethnig …

Mae’r rhyfel rhwng Marvel a DC wrthi’n cychwyn, gyda’r ddau gwmni wedi rhyddhau rhestr o bob un o’u ffilmiau nhw tan 2020. Ac mae yna lawer o drafod amdano fan hyn!

Fi’n siŵr bydd trafodaethau dyfnach am y ‘rhyfel’ yma pan mae Phase 3 a chychwyniad swyddogol y bydysawd ffilmiau DC yn dechrau yn 2015-16.

Mae Marvel wedi  bod wrthi’n creu ffilmiau o safon uchel o fewn bydysawd a rennir ers 2008, gyda DC yn trio dal lan gyda chychwyniad meddal yn 2013.

Digon i ddod

Mae’n amlwg bod y ddau gwmni ar ras i gynhyrchu ffilmiau erbyn hyn, ac mae bach o gystadleuaeth yn dda i’r ddwy ochr.

Ond gyda Marvel yn tynnu dyddiad Captain America: Civil War yn agosach fel ymateb i ddyddiad rhyddau Batman V Superman: Dawn of Justice, mae’n amser gofyn y cwestiwn: A ydyn ni’n cyrraedd penllanw pan mae’n dod at  nifer y ffilmiau sy’n seiliedig ar lyfrau comics?

Mae Marvel a DC yn rhyddhau o leiaf dwy ffilm bob blwyddyn, mae Sony yn rhyddhau dwy ffilm Spider-Man rhwng  nawr a 2018, a Fox yn rhyddhau pump yn yr un amser.

I grynhoi, mas o gewri’r llyfrau comics, rhwng nawr a 2020 mi fydd 28 ffilm yn cael eu rhyddhau. Waw!

Does byth wedi bod amser gwell i fod yn nyrd llyfrau comics, ac mae’n amser cyffrous yn y byd ffilmiau yn gyffredinol hefyd.

Ble mae’r amrywiaeth?

Efallai beth sy’n siomedig yw, mas o’r 28 ffilm, dim ond pedair ffilm fydd yn cynnwys menyw neu berson croenddu fel y prif gymeriad.

Gan feddwl taw Marvel oedd y cyntaf i gychwyn y ras yma, mae’n rhyfedd meddwl taw DC fydd yn cynhyrchu’r ffilm gyntaf sy’n serennu menyw.

Mi fydd Gal Gadot yn achub y byd fel Wonder Woman ym Mehefin 2017, blwyddyn cyn i Captain Marvel ymddangos.

O ran cymeriadau croenddu mae Marvel wedi cael ychydig o actorion arbennig,  yn enwedig Anthony Mackie oedd yn chware rôl The Falcon yn Captain America: Winter Soldier, ac mae Don Cheadle yn arbennig fel The Iron Patriot yn Iron Man 2 ac Iron Man 3.

Marvel sy’n ennill y ras i gael prif gymeriad croenddu trwy Chadwick Boseman, sy’n chwarae’r Black Panther yn 2017, gyda DC dair blynedd tu ôl gyda Cyborg yn cael ei rhyddhau yn 2020.

Mae’n gwestiwn pwysig i godi, ac i feddwl bod pwyslais gan y ddau gwmni bod eu bydysawdau’n enfawr, mae’n rhyfedd bod nifer fawr iawn o’r prif gymeriadau yn ddynion gwyn, a dim sôn am gymeriad o Asia neu’r Dwyrain Canol eto (Gwnewch ffilm am Gilgamesh neu Sabra nawr!).

Rôl fodelau

Gan feddwl yn y llyfrau comics bod Thor wedi bod yn froga, a nawr yn fenyw, a bod rhestr hynod o eang o wahanol rywiau a lliwiau, mae’n od meddwl bod cymaint o gymeriadau o un golofn gul yn cael eu defnyddio yn y ffilmiau.

Fel dyn croenwyn rydw i wedi cael fy sbwylio am arwyr ar-sgrin sydd fel fi, ond mae’n amser ehangu’r amrywiaeth yma!

Mae’n bryd cyflwyno cymeriadau fel Miles Morales ac Artemis i eirfa’r genhedlaeth ifanc yma.

Ac mae’n hen bryd i fydysawdau sinematig y llyfrau comics brofi i’r gynulleidfa’r un peth maen nhw wedi bod yn gwneud am ddegawdau ar brint; gall unrhyw un fod yn arwr.