Dylan Edwards yn Cannes
Ail flog Dylan Edwards, yn sôn am ei brofiadau dros y penwythnos yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes …

Yr argraff gyntaf ges i o gyrraedd bwrlwm gŵyl Cannes, ar ôl misoedd o gyffro a pharatoi, oedd pa mor debyg oedd y Croisette i faes Eisteddfod Genedlaethol.

Y cyfryngau’n rhedeg o gwmpas, yr holl fusnesau amrywiol yn gwerthu nwyddau (neu ffilmiau), y Palais du Festival yn bafiliwn enfawr yn ganolbwynt i’r cyfan, y ciwio, y camerâu.

Yr unig wahaniaeth oedd yr holl bobol diogelwch a’r bagiau llaw Céline – o ie, a’r ffilmiau. A’r haul. A’r ffaith fod Jennifer Lawrence a Ryan Gosling yn partio ar long hwylio ganllath i ffwrdd.

Roeddwn yn ddigon ffodus i fynychu dangosiadau o dair ffilm o brif gystadleuaeth yr ŵyl, a chwpwl o adran Quinzaine des Réalisateurs (Pythefnos y Cyfarwyddwyr) yr ŵyl, sef sidebar cynhaliol sy’n rhoi platfform i gyfarwyddwyr newydd, ifanc.


Ar y ffordd i'r Quinzaine des Realisateurs
Roedd ffilmiau’r Quinzaine yn gyffrous a diddorol mewn ffyrdd nad oedd y ffilmiau ‘mwy’ a welais; ond ar rheiny fydda i’n canolbwyntio yn y blog yma.

Winter Sleep

Ffawd, gwaith, pwrpas dyn ar y Ddaear, y cysyniad o faddeuant, Duw … mae ffilm y cyfarwyddwr Twrcaidd Nuri Bilge Ceylan, Winter Sleep, wedi bod yn ffefryn unfrydol am y Palme d’Or, prif wobr yr ŵyl, ers cyn i’r rhestr hyd yn oed gael ei datgelu.

Yn bennaf ar ffurf sgyrsiau hir, mae’n crybwyll y syniadau mawrion hyn mewn ffordd ymholgar, drom.

Ffilm yw hon sy’n gofyn y cwestiwn anoddaf oll, cwestiwn mae’n ei wasgu’n dynn ar y gwyliwr am dair awr a hanner: beth os? Beth os ydych chi wedi bod yn mynd ati yn y ffordd anghywir trwy gydol eich bywyd?

Mae dwy olygfa hiraf Winter Sleep yn rhai sy’n ymddangos rhyw draean a dau draean o’r ffordd drwyddi ac sy’n ymddwyn fel hanner colons ym mrawddeg hir y ffilm.

Golygfeydd ydyn nhw rhwng y prif gymeriad a’i chwaer, a fe a’i wraig. Mae’r ddwy’n olygfeydd dydych chi ddim yn dod ar eu traws yn aml mewn ffilm – golygfeydd lle mae pob un cwlwm ym mywydau’r cymeriadau (neu’n hytrach, yn nelweddau’r gynulleidfa ohonynt) yn datod.

Does dim hiwmor nac ysgafnder i’w gael yn ffilm Ceylan am mai gwylio cronicl ydyn ni o fywyd dyn, oedd yn meddwl ei fod yn byw ei fywyd yn iawn, yn chwalu’n llwyr, heb ddim sbardun amlwg.

Ydy hyn o ganlyniad i’w benderfyniadau ef, i ryw wall yn ei bersonoliaeth a’i ego, i ffawd, neu i rywbeth ehangach fyth? Dydy Ceylan ddim yn cynnig atebion.

Mae’n rheoli pob eiliad o ymateb ei gynulleidfa; mae Winter Sleep yn waith artist sy’n gwybod, ar ôl derbyniad ei ffilm ddiwethaf, Once Upon a Time in Anatolia, yn 2011, ei fod yn grefftwr ar binacl ei gelfyddyd.

Ac er bod hon yn ffilm sydd yn ei hanfod yn gorymestyn yn thematig, ac iddi brotagonist sy’n hyll ac anhapus a phryfoclyd, mae hefyd yn profi bod llais sinematig Ceylan yn aeddfedu’n gyflymach nag unrhyw un – mae ei ddefnydd o dirwedd ddramatig Anatolia yn chwarae mwy o ran yn natblygiad seicolegol y cymeriadau nag unrhyw beth arall.

Mae presenoldeb yr auteur dibynadwy o heriol a thrwm wedi bod yn absennol o’r Croisette, medden nhw, ers dyddiau Angelopoulos a Tarkovsky; mae Ceylan yn ddisgynnydd cwbl haeddiannol i’r ddau.

A beth am y posibilrwydd o roi’r Palme i ffilm Ceylan? Er ei bod yn annhebyg y bydd yna ffilm arall yn y brif gystadleuaeth sydd mor thematig lawn, mor soffistigedig ei rhythmau nac mor epig ei naws, ni fyddwn yn gwbl hapus i’w gweld yn cipio’r brif wobr.

Mae’n rhestr arbennig o gyffrous eleni, ac, yn bwysicach, mae’n rheithgor arbennig o ddiddorol hefyd. Mi fyddai’n braf gweld eu prif wobr yn mynd i rywbeth llai cyfarwydd, mwy lliwgar, dewrach.

Ond mae’n agos at fod yn gampwaith, felly mae yna’n sicr benderfyniadau gwaeth y gallai rheithgor Jane Campion eu gwneud.

Le Meraviglie

Nos Sadwrn, gwyliais ffefryn arall am wobr, sef Le Meraviglie, ail ffilm yr Eidales Alice Rohrwacher, a gyrhaeddodd yr ŵyl dan gwmwl trwm (ac ychydig yn annheg) o ddisgwyliadau ar ôl i’w ffilm gyntaf, Corpo Celeste, wneud tipyn o sblash yn Quinzaine yr ŵyl yn 2011.

Ond nid ffilm ddwys na throm yw hon; yn wir, allwn i byth fod wedi dychmygu pâr o ffilmiau mwy cyferbyniol nac y cefais i ddydd Sadwrn.

Lle bo Winter Sleep yn ffilm sy’n pryfocio, yn tynnu ar ac yn bychanu emosiynau ei chymeriadau a’u ffyrdd cul, misanthropig o weld y byd, ffilm gynnes yw Le Meraviglie sydd mewn cariad â’i chymeriadau, sy’n rhoi amser iddynt symud a sgôp iddynt dyfu.

Stori talp-o-fywyd ac iddi elfen o realaeth hud yw hwn, sy’n ymwneud â theulu gweddol dlawd sy’n ffermio mêl mewn ardal wledig yng ngogledd yr Eidal.

Merch hynaf y teulu, Gelsomina, yw’n prif gymeriad, ac mae’r ffilm yn dilyn ei helyntion hithau a’i theulu wrth iddi hi gael ei hatynnu at raglen deledu gawslyd sy’n dod i’r ardal yn cynnig gwobrau a chlod i’r fferm â’r cynnyrch gorau (caiff Rohrwacher dipyn o hwyl wrth ddychanu math arbennig o raglen adloniant ysgafn Eidalaidd, yn arbennig yn y setiau artiffisial ac yng nghameo doniol y seren fyd-eang Monica Bellucci).

Mae nifer o feirniaid wedi pigo ar y ffilm am gynnwys gormod o elfennau storïol sy’n mynd i nunlle (gan gynnwys isblot am blentyn o’r Almaen yn cael ei anfon i’r fferm fel gwasanaeth cymunedol) ond dwi wastad yn meddwl ei bod hi’n well i ffilm gael gormod, miloedd, o syniadau na llond llaw o rai anarbennig.

Roedd Le Meraviglie fel chwistrelliad o egni yng nghystadleuaeth Cannes, ac yn sefydlu Rohrwacher fel un o leisiau newydd mwyaf cyffrous sinema Ewropeaidd heddiw.

Wild Tales

Yn perthyn i fyd cwbl wahanol eto roedd Wild Tales, neu Relatos Salvajes, comedi bortmanteau o’r Ariannin sy’n gasgliad o chwe ffilm fer ddoniol, y drydedd ffilm o’r brif gystadleuaeth i mi ei gwylio.

Mae pob un o’r ffilmiau byrion yn hynod wyllt ac anrhagweladwy a ffarsaidd (a gwirioneddol ddigri) ond mae’n hawdd gweld hefyd pam mae’r ffilm wedi ei dewis fel rhan o’r Compétition; mae yna linyn gwleidyddol tanllyd yn rhedeg trwy bob un o’r ffilmiau.

Mae pob un yn croniclo’r gwrthdaro rhwng y rhai pwerus a’u hysglyfaeth, ac yn dangos yr hyn sy’n digwydd pan mae’r llai pwerus yn taro nôl (a dyma sy’n achosi comedi gwallgof a throellog y ffilm).

Yr argraff gefais i o siarad â phobol oedd wedi gwylio’r ffilm oedd bod bron pawb wedi ei mwynhau ond yn cymryd yn ganiataol ei bod hi ddim yn mynd i ennill gwobr.

Ond dwi’n meddwl bod ffilm Damian Szifron wedi gwneud digon o argraff ac yn ddigon gwahanol i bob ffilm arall yn y brif gystadleuaeth i fod yn geffyl tywyll am y wobr am y cyfarwyddwr gorau.

Buzz Cannes

Dyma’r ffilmiau lwyddais i i’w gwylio o’r brif gystadleuaeth, ond fe fyddai disgrifio fy holl brofiadau dros fy mhenwythnos hir yn Cannes yn cymryd dyddiau.

Cwrddais â llawer o bobol y wasg o bob cwr o’r byd, wrth giwio gan amlaf, gan gynnwys ffrindiau newydd o Frasil ac o Hwngari.

Gwyliais ychydig o The Good, The Bad, and The Ugly efo is-deitlau Ffrangeg ar sgrin enfawr ar draeth – mae’r Cinema de la Plage yn rhan o’r ŵyl sy’n rhoi cyfle i’r bobol gyffredin sy’n heidio i Cannes.


Y traeth yn Cannes
Ond ffilmiau’r wyl, a’r profiad o’u gwylio yn rhai o’u dangosiadau cyntaf erioed mewn stafelloedd crand yn llawn critics a newyddiadurwyr o bob rhan o’r byd, fydd yr atgofion fydda i’n eu trysori fwyaf.

Roedd yn wych o ŵyl o be welais i, yn buzz fel nad ydw i wedi ei weld erioed o’r blaen, ac yn brofiad a hanner. Ac yn awr, rhaid i mi ddychwelyd i’r byd go iawn.

Gallwch hefyd ddarllen blog cyntaf Dylan yn rhoi rhagolwg o’i ymweliad â Gŵyl Ffilmiau Cannes, a’i ddilyn ar Twitter ar @dylanhuw.