Daniel Johnson
Daniel Johnson fu’n gweld campwaith diweddaraf DiCaprio …

Mae gan y cyfarwyddwyr gorau themâu penodol y maen nhw’n hoffi archwilio yn eu ffilmiau. Mae Peter Jackson, er enghraifft, yn gweithio orau pan mae’n defnyddio hanes dychmygol, fel ffilmiau Lord of the Rings, The Hobbit a King Kong.

Does ’na’m llawer o gyfarwyddwyr sydd wedi edrych ar fywydau troseddwyr sydd yn apelio at gynulleidfa yn well na Martin Scorsese. Henry Hill yn Goodfellas, Teddy Daniels yn Shutter Island, a rŵan Jordan Belfort yn ei ffilm newydd, The Wolf of Wall Street.

Dros dair awr y ffilm mae’r cyfarwyddwr yn mynd a’r gynulleidfa ar daith anhygoel wrth ganolbwyntio ar fywyd gwyllt Belfort. Fel Goodfellas dydi o’m yn esgusodi’r bywyd, ond mae hefyd yn dangos faint o hwyl oedd ar gael i Belfort a’i gyd-weithwyr.

Mae’r stori yn dilyn Belfort o’i ddiwrnod cyntaf yn Wall Street i’w gyfnod fel pennaeth ei gwmni ddim-yn-hollol-gyfreithiol, Stratton Oakmont. Dros y tair awr mae Scorsese yn dewis yr opsiwn o ddangos, yn lle adrodd, ei ffordd o fyw anghredadwy.

Yn wir, peidiwch â mynd i weld y ffilm yma os rydych yn cael eich syfrdanu’n hawdd. Mae noethni, iaith las a chyffuriau yn y rhan fwyaf o olygfeydd.

Dawn DiCaprio

Mewn dwylo gwael, all hyn fod wedi bod yn rysáit ar gyfer trychineb. Ond yn dal yr holl beth hefo’i gilydd mae Leonardo DiCaprio, sy’n rhoi un o’i berfformiadau gorau erioed ac yn llwyddo i ddod a Belfort yn fyw.

Mae DiCaprio wedi bod yn actio i safon uchel iawn yn y blynyddoedd diwethaf, hefo’i bortreadau o Daniels yn Shutter Island a Calvin Candie yn Django Unchained yn uchafbwyntiau. Ond hefo Belfort mae o wedi rhoi ei berfformiad gorau erioed, ac un sydd wedi ennill enwebiad Oscar iddo yn y categori Actor Gorau.

Er mai DiCaprio ydy’r prif chwaraewr, mae gweddill yr actorion yn ychwanegu at ansawdd y ffilm hefo perfformiadau cryf. Yn benodol mae Jonah Hill yn wych fel Donny Azoff, ffrind gorau Belfort, ac yn rhoi llawer o ddigrifwch i’r llun.

Gallwn ddweud yr un peth am Matthew McConaughey sydd bron yn dwyn y sioe yn gyfan gwbl fel pennaeth Belfort ar gychwyn y ffilm. Rhwng hon a Dallas Buyers Club mae McConaughey wedi cael blwyddyn gref, ac fe fydd yn cystadlu yn erbyn DiCaprio yn yr Oscars ar ôl ei berfformiad yn DBC.

Yn ogystal mae Rob Reiner, Jean Dujardin a Joanna Lumley yn cael rhannau bach hynod o bwysig, ac anghredadwy o ddoniol mewn darnau. Mae Kyle Chandler hefyd yn rhoi perfformiad cofiadwy fel yr Asiant FBI sydd yn ceisio dwyn Belfort i gyfrif.

Efo ‘Wolf’ mae Scorsese wedi creu Goodfellas ar gyfer y genhedlaeth ddigidol – ffilm sy’n dangos Scorsese ar ei wir orau am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Yn fy marn i, hwn ydy’r ffilm orau mae’r cyfarwyddwr wedi ei gwneud ers anturiaethau Henry Hill.

Mae pob agwedd o’r ffilm, o’r cyfarwyddo a’r actorion hyd at y gerddoriaeth anhygoel yn creu ffilm arbennig fydd yn cael ei thrafod am flynyddoedd i ddod.

Marc: 9/10

Gallwch ddilyn Daniel ar Twitter ar @daniel_steffan.