Mae trac Cymraeg a gafodd ei gyhoeddi ar-lein ddydd Mercher wedi cyrraedd clustiau dros 13,000 o bobol mewn cwta ddeuddydd.

Mewn cyfnod digon heriol i gerddorion Cymraeg, fe fydd llwyddiant y trac gan y canwr Ifan Dafydd yn hwb mawr, gan ddangos fod modd i gerddoriaeth Cymraeg ledaenu ledled y byd.

Y Record Las ydy prosiect diweddaraf label Recordiau Lliwgar, sy’n cyhoeddi recordiau finyl aml gyfrannog.

Bydd y Record Las yn cael ei rhyddhau ym mis Mawrth, ac mae’n cynnwys traciau gan H. Hawkline, Llwybr Llaethog, Ymarfer Corff (prosiect newydd Euros Childs a Pete Richardson o’r Gorkys Zygotic Mynci) ac Ifan Dafydd.

‘Celwydd’

Cafodd y trac ei gyhoeddi i hyrwyddo’r casgliad gan Ifan Dafydd i’w ffrydio ar wefan Soundcloud brynhawn Mercher, ac erbyn heddiw mae’r gân ‘Celwydd’ wedi mynd yn feiral.

“Mae Ifan Dafydd wedi creu tipyn o enw i’w hun dros y flwyddyn ddiwethaf, felly roedden ni’n falch iawn ei fod o wedi cytuno i gyfrannu at y casgliad” meddai Meic Parry o Recordiau Lliwgar.

“Er hynny, doedden ni ddim yn disgwyl y fath ymateb i gyhoeddi’r gân  promo ar Soundcloud – dim ond tamaid i aros pryd oedd o fod.”

“Mae’r peth wedi bod yn anhygoel a dwi wedi cymryd degau o rag archebion yn barod, o bob rhan o’r byd.”

Dim ond y dechrau

Er nad yw’r record newydd allan tan mis Mawrth, mae modd rhag archebu’r record o wefan Recordiau Lliwgar.

Roedd y label wedi cymryd 5 rhag archeb o fewn awr i gyhoeddi’r gân gan Ifan Dafydd, ac ers hynny maen nhw wedi bod yn cymryd archebion o wledydd fel Rwsia, Yr Almaen ac UDA.

“Mae ‘na lot o wefannau cerddoriaeth mawr fel This is Fake DIY a Line of Best Fit wedi bod yn ysgrifennu am y gân hefyd, felly mae’n debyg mai dim ond dechrau ydy hyn” ychwanegodd Parry.

Ai dyma’r peth ‘feiral’ mwyaf yn yr iaith Gymraeg hyd yn hyn? Rhowch wybod os fedrwch chi feddwl am unrhyw beth fyddai’n dod yn agos.