Mae tri brawd o Ben Llŷn draw ym Mhatagonia ar hyn o bryd, yn perfformio i blant ac yn perfformio o flaen y trigolion lleol yn nhalaith Chubut, Trelew, y Gaiman, Trefelin ac Esquel.

Menter Patagonia sy’n trefnu – ac mae nawdd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cwmni Teithiau Tango a label recordio Sbrigyn Ymborth wedi galluogi i’r grŵp, Cowbois Rhos Botwnnog, i gynnal cyfres o gyngherddau a gweithdai yn y Y Wladfa mis yma.

“Mae’n mynd yn dda,” meddai’r grŵp wrth Golwg 360 ganol wythnos yma.

“Rydan ni wedi bod yn y Gaiman ers pum niwrnod bellac, ac wedi bod yn brysur. Mi fyddwn i’n cychwyn am yr Andes, i Drefelin ac Esquel ymhen ryw bedwar diwrnod.”

Mae Iwan Madog a Lois Dafydd ym Menter Patagonia yn y Wladfa yn cynorthwyo i drefnu’r daith.

Bwriad y fenter yw cryfhau defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, fel mae’r Mentrau Iaith yn gwneud yng Nghymru.

Cafodd ei sefydli yn 2008, fel ymateb i alw lleol i sicrhau dyfodol byw i’r Gymraeg. Erbyn hyn, maen nhw’n awyddus i ddatblygu cyfleoedd i gerddorion a llenorion Cymraeg eu hiaith i deithio gyda’u gwaith i’r Wladfa.

Hen ganeuon gwerin – “yn mynd lawr yn dda”

Mae’r Cowbois wedi cynnal gweithdy cerdd yn ysgol yr Hendre, Trelew, yr wythnos hon, a chyngherddau nos Sadwrn a nos Fawrth.

“Rydan ni hefyd yn recordio gyda Hector Ariel, cerddor lleol, yn ei stiwdio yma yn y Gaiman. Hyn oll ynghyd â chyfarfod a llwyth o bobol,” meddai’r Cowbois.

“Rydan ni’n edrych ymlaen i fynd i’r Andes. Mae’n debyg fod y tirwedd yn dra gwahanol yno , felly mi fydd yn ddifyr i weld hynny.

“Does neb wedi cwyno (am ein caneuon ni) eto! Mae hen ganeuon gwerin yn mynd lawr yn dda yma, ac mae pobol yn mwynhau’r caneuon gwreiddiol hefyd.”

Llinos Dafydd