Dyma fand sy’n mynd ar garlam – ac mae’n gyfnod cyffrous i’r Race Horses, yn ôl un o aelodau’r band, a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn ôl yn 2005.

“Mae’n gyfnod rili cyffrous,” meddai Meilyr Jones. “Wnaethon ni recordio albym y llynedd, a ry’n ni wedi bod yn gwneud lot behind the scene.”

Maen nhw newydd lawnsio albym yr wythnos hon, Furniture, sy’n cynnwys deg o ganeuon Saesneg.

“Ni’n chuffed gyda’r ymateb hyd yn hyn. Wrth wneud set byw mewn gigs, mae’n rhaid bod yn llawn egni, mae’n gorfforol iawn, llawn sbri,” meddai Meilyr Jones.

Yn ôl Dylan Hughes, aelod arall o’r band, mae yna gymysgedd da o ganeuon ar yr albym newydd.

“Mae rhai’n up beat, a rhai sy’n bach mwy tywyll. Mae’r gerddoriaeth yn cyferbynnu, yn dibynnu ar y pyncie ry’n ni’n sgrifennu amdanyn nhw,” meddai.

Hoff gân Meilyr oddi ar yr albym yw What Am I To Do, am fod y geiriau wedi dod “yn rili hawdd”.

“Mae e am dad fy nghariad i ar y pryd, sy’n beintiwr o Gaerdydd, ac mae e’n peintio lot o nudes ac ati. Dyna oedd yr ysbrydoliaeth.

“Yn yr albym, dw i’n gwybod ei fod yn cliche, ond rydyn ni’n siarad yn onest am lot o wahanol bethe a phobol,” meddai Meilyr Jones.

Gwneud pethe “o safon” – yn Gymraeg ac yn Saesneg

Mae’r caneuon sydd ar yr albym diweddaraf yn rhai Saesneg i gyd – ond dyna oedd yn naturiol, meddai’r band.

“Mi wnawn ni albym neu ganeuon Cymraeg yn y dyfodol, os ydy e’n dod yn naturiol i wneud hynny,” meddai Meilyr Jones.

“Sgrifennu caneuon da sy’n bwysig, a gwneud pethe o safon, heb gael ein fforsio.”

Mae’n sôn ei fod yn gyfnod “neis” i’r band i wneud pethau yng Nghymru, meddai, yn ogystal â theithio o gwmpas Prydain.

“Mae’n deimlad cyffrous, wrth i ni drio wneud pethe newydd a gwahanol yng Nghymru, a thu hwnt i Gymru.”

Race Horses oedd un o’r prif fandiau yng Ngŵyl Gwydir dros y penwythnos yn Llanrwst, a dyna oedd eu cyfle cyntaf nhw i berfformio’r set newydd.

“Oedd e’n wych,” meddai Meilyr Jones. “Oedd real atmosphere yna. Mae mor bwysig i gael gwyliau fel yna’n digwydd led led Cymru. Oedd e’n ddathliad o fandiau Cymraeg.”

Llinos Dafydd