Sen Segur yn perfformio ar lwyfan Gŵyl Gwydir nos Wener.
Bu Marta Klonowska ac Asia Rybelska yng Ngŵyl Gwydir dros y penwythnos…

Roedd Gŵyl Gwydir dros y penwythnos yn ail gyfle inni flasu’r Sîn Roc Gymraeg, ar ôl gŵyl Hanner Cant ym mis Gorffennaf. A chryn dipyn o antur oedd hi hefyd wrth deithio drwy ffyrdd troellog y Gogledd cyn inni gyrraedd Clwb Rygbi Nant Conwy, ger Llanrwst.

Rhaid inni gyfaddef nad oedd y maes yn edrych yn rhy drawiadol wrth i ni gyrraedd – ond cyn bo hir daeth criw bach ond brwdfrydig i’r lle a’i drawsnewid yn llwyr.

Dechreuodd y nos Wener gyda pherfformiad band ifanc newydd o’r enw Plu (prif leisydd y Bandana â’i chwiorydd) ac roedd hwnnw’n ddechreuad da, yn creu awyrgylch dymunol a chadarnhaol. Yn ddiddorol, gig Plu oedd yn unig gyfle i ni glywed lleisiau benywaidd (lleisiau da, gyda llaw!) – dynion a oedd yn cipio’r llwyfan am weddill yr ŵyl.

Roedd yr holl noson nos Wener yn ddymunol, rhaid dweud, gyda synau clasurol Tecwyn Ifan a oedd yn atgoffa pawb am oes euraid y saithdegau a’r wythdegau. Wedyn daeth ychydig mwy o ‘hwb’ gan Sen Segur â’u roc trymach, ac i orffen, set wych Bob Delyn â’r Ebillion. Os oedd perfformiad y band ifanc o Benmachno’n llwyddiant, roedd awr a hanner gyda Bob Delyn yn bleser pur.

Erbyn diwedd y gig roedd pawb yn dawnsio, ac roedd y band yn mwynhau eu hunain gymaint â’r gynulleidfa.

Synau swynol pnawn Sadwrn

Ar ôl prynhawn a noson mor gyffrous, aethom yn syth i’n sachau cysgu, ac er gwaetha’r nos oer, cysgom yn ddigon da i gael egni ar gyfer y diwrnod canlynol.

Yn y bore aethom ar wibdaith fer i Lanrwst i edmygu’r eglwys a’r bont, a dychwelom i’r maes i glywed diwedd set Alun Gaffey yn cael ei dilyn gan … gwpl o hen ganeuon Pwyleg a chwaraeodd DJ inni yn ystod saib bach rhwng artistiaid. Diolch!

Ar ôl perfformiad llwyddiannus Mr Huw, daeth set roeddem yn edrych ymlaen amdani, sef perfformiad Violas. Er nad ydy’r band yn arfer chwarae fersiynau acwstig eu caneuon, fel y dywedodd un o’r aelodau wrthym, roedd pob un o’r cyfansoddiadau’n swnio’n ffres ac yn annisgwyl.

Un o uchafbwyntiau’r ŵyl oedd darlith Mr Toni Schiavone am sut y dechreuodd cerddoriaeth Gymraeg ennill annibyniaeth o’r sin gerddorol Saesneg, a sut y gwnaeth artistiaid o’r saithdegau a’r wythdegau ddylanwadu’r bandiau cyfoes.

Ac roedd y prynhawn hwnnw’n perthyn i fandiau roc ifanc, Sŵnami a Candelas a oedd  yn cynhyrfu a hudo’r gynulleidfa ieuanc a ddechreuodd lifo i’r maes bryd hynny. Yn y cyfamser, ychwanegodd Eilir Pierce a’i “blant” elfen o wallgofrwydd gyda’i ganeuon a sylwadau anghonfensiynol (fel arfer!).

Gŵyl gyfeillgar

Ar ddechrau’r noson, fe chwaraeodd yr unig fand di-Gymreig, sef By The Sea, ac roedd y dorf yn amlwg yn mwynhau eu synau shoegaze. Roedd tu fewn y Clwb Rygbi’n llawn dop hefyd, a phobl yn cael eu tynnu gan fandiau ac artistiaid poblogaidd fel Jakokoyak, Y Niwl a’r Bandana. A ni wnaeth y rheiny siomi chwaith – roedd pawb yn cael pob hwyl a sbri yn bownsio, dawnsio a gweiddi.

Yn dilyn cyngor prif leisydd Y Bandana yn eu hit ‘Geiban’, roedd y gynulleidfa yn dal i fwynhau eu hunain yn ystod perfformiadau Yr Ods a Race Horses. Penderfynodd y cyntaf ganolbwyntio ar eu caneuon ‘hŷn a hynaf’, a galluogi’r ffans i ganu gyda hwy. Ac un o uchafbwyntiau’r diwrnod i’r ddwy ohonom, oedd set Race Horses, y perfformiad mwyaf amrywiol a phroffesiynol, mae’n debyg . Er nad oeddem yn ddilynwyr brwdfrydig o’r band cyn Gŵyl Gwydir, credwn y byddwn o’r hyn ymlaen!

Er nad oedd Gŵyl Gwydir yn ddigwyddiad mor enfawr a phwysig â Hanner Cant, nid oedd safon y perfformiadau yn is – mewn gwirionedd, gwnaeth rhai bandiau yn well yn ein barn ni. Hefyd, roedd yr ochr acwstig yn llawer mwy cyfeillgar at wrandawyr, heb eu gorchfygu gan synau byddarol.  A, diolch byth, nid oedd y tywydd yn anghyfeillgar chwaith, oedd yn gymorth mawr wrth i ni fwynhau’r ŵyl.

Mae Marta Klonowska ac Asia Rybelska yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl, sydd ar leoliad gwaith gyda Golwg/Golwg360 dros yr haf.

Bydd y ddwy i’w gweld mewn eitem arbennig ar raglen Heno ar S4C heno (nos Fawrth 11 Medi) am 19:00.