The Stone Roses
Mae Non Tudur yn teithio i Fanceinion yfory i weld un o fandiau seminal y ddinas…tri chynnig i Gymraes – y Stone Roses o’r diwedd!

Dw i’n ceisio cadw caead ar y cynnwrf sy’n cronni yn ‘y mol am y ffaith mod i’n mynd i weld Stone Roses nos fory, un o grwpiau roc mwya’ diwedd yr ugeinfed ganrif. Ond mae’n anodd.

O’r diwedd, mae’r amhosib wedi dod yn wir. Roedd yr aelodau – Ian Brown, Mani, Reni a John Squire – wedi wfftio’r syniad o ailffurfio am flynyddoedd. Yn 2009, roedd Squire wedi gwneud darn o gelf yn 2009 ag arno’r geiriau: ‘I have no deisre whatsoever to desecrate the grave of seminal Manchester pop group The Stone Roses 18.3.09.’

Ond, yn ddirybudd, fis Hydref diwetha, mi ddywedon nhw wrth y byd eu bod am chwarae tair noson y penwythnos yma yn Heaton Park ym Manceinion. Mi werthodd y tocynnau i gyd mewn tua teirawr.

O 1990 hyd nes i mi adael coleg yn 1996 roedd gyda fi boster enfawr du a gwyn o’r Stone Roses ar fy wal. Y bwriad, yn ddigon syml, oedd cael mynd i gysgu a breuddwydio am Ian Brown, y canwr pert drygionus, tra’n codi i le uwch i gyfeiliant hypnotaidd caneuon digymar fel ‘I Wanna be Adored’, ‘Waterfall’, a ‘This is the One’, a’r sengl ddwy gân anhygoel o dda, ‘Fool’s Gold’ a ‘What the World is Waiting For’.

Y Stone Roses oedd ein harwyr pan o’n i’n bymtheg oed. Cefais ddau gopi o’r record hir gynta’, fendigedig yn anrhegion Nadolig yn 1990. Mi etifeddais yr holl senglau CD gan fy nghyn-gariad, rhywbeth y mae e’n siŵr o fod wedi’i ddyfaru.

O’u herwydd nhw, byddai fy ffrind a minnau’n dal bws cynnar o Aberystwyth i Fanceinion ar Sadyrnau, i gael mynd i’r siop recordiau Eastern Bloc ac i siopa am ddillad llac, lliwgar o Affleck’s Palace er mwyn eu gwisgo i gigs Cymraeg. Mi es i draw i Fanceinion a chiwio yn HMV am y sengl newydd One Love fis Gorffennaf 1990, a phrynu’r crys-t. Dw i’n gobeithio gwisgo hwnnw i Heaton Park nos fory er ei fod yn faint XL, fel pob un crys-t oedd pobol r’un oed yn eu prynu adeg hynny, achos dylanwad steil ‘baggy’ Manceinion ar y pryd. Ac oherwydd y puppy fat oedd ganddon ni ferched Penweddig ar y pryd ynte. Debyg y byddan nhw yn yr hen grysau yn eu miloedd heno, fory a drennydd. Trist efallai, ond pam lai.

Doedd dim curo arnyn nhw, er nad ydw i’n dal yn siŵr hyd heddiw o’r geiriau mae Ian Brown yn ei ganu. Mae’r canwr wedi cael gyrfa lewyrchus ei hun wedyn, diolch efallai i’w ddeallusrwydd a’i ddawn i wthio ffiniau cerddorol na’i lais canu.

Dw i’n cofio ystyried mynd i weld y Roses yng nghlwb enwog yr Hacienda tua 1990 gyda ’mrawd, ond penderfynu mynd i Gaerdydd i wylio Cymru yn colli yn y pêl-droed yn lle. Yn waeth byth, cefais gyfle i’w gweld cyn i’r holl sylw ddigwydd. Yn 1989, roedd swyddog adloniant da iawn gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn denu grwpiau fel y Buzzcocks ac ati i Aber. Roedd rhywun yn yr ysgol wedi sylwi bod gig yno gyda grŵp ifanc o’r enw The Stone Roses, a dyma sôn am fynd (er dw i’n cofio cywiro sawl un oedd yn eu galw’n Guns’n’Roses). Digwydd bod, mi lewygais yng nghartre’ fy ffrind cyn i ni fentro mas, ar ôl trio gwthio anferth o glustdlws mawr cylchog i ‘nghlustie er mai newydd eu tyllu’r oeddwn, a darganfûm bod yr how-gariad oedd gen i wedi bod yn mela gyda myfyriwr o Bantycelyn. Mi aethon ni i’r Undeb, eistedd yn y bar, gwylio’r band cyntaf – The Hollow Men (duw a ŵyr), ond gadael yn gynnar. Do, ffaeles i gael mopio ar Ian Brown cyn i ferched eraill y byd glywed amdano.

Tri chynnig i Gymraes felly. Mi fyddaf yn grug fore Sul, ac wedi cael fy hyrddio nôl i’m harddegau cynnar, yng nghwmni miloedd ar filoedd o bobol gyffelyb. Dyma’r un.