Yn ddiweddar, bu Golwg360 lawr ym Montardawe yn un o gigs ‘Gigs y Gwach’ y dref, yn nhafarn Y Gwachel.

Brigyn a Fast Fuse oedd yn perfformio ar y noson, ond mae’r gigs yn cael eu cynnal yno’n rheolaidd ac wedi profi’n llwyddiannus iawn.

Bu criw Golwg360 yn holi rhai o’r selogion yngŷn â chyfrinach llwyddiant y nosweithiau.