Captain Beefheart
Fe fu farw’r cerddor roc cwlt, Captain Beefheart, ar ôl blynyddoedd o ymladd yn erbyn sglerosis ymledol.

Roedd Don Van Vliet yn 69 oed ac wedi bod yn byw yn feudwy yng Nghaliffornia, gan dreulio’r rhan olaf o’i yrfa yn paentio ac arlunio.

Fe ddaeth yn enwog yn niwedd yr 1960au gyda Captain Beefheart and the Magic Band a math unigryw, arbrofol o gerddoriaeth roc.

Ei albwm enwoca’ oedd Trout Mask Replica a gafodd ei osod yn 58fed yn rhestr cylchgrawn Rolling Stone o’r albyms gorau erioed.

Creadur anodd

Yn ogystal â’i gerddoriaeth ryfedd, roedd ganddo’r enw o fod yn greadur anodd ei drin ac fe adawodd holl aelodau’r Magic Band ynghanol y 70au cyn i Don Van Vliet ffurfio band newydd a chyhoeddi tri albwm arall.

Y farn gyffredinol yw bod ei ddylanwad yn fwy na’i enwogrwydd – fe gafodd ddilyniant cwlt ond dim llwyddiant mawr masnachol.

Llun: Captain Beefheart yn y 70au (Jean-Luc CCA2.0)