MC Saizmundo
Mae rapiwr Cymraeg yn credu bod canu gwleidyddol yn dod yn ei ôl, a bod yr argyfwng economaidd yn esgus perffaith i “orffen be ddechreuwyd gan Margaret Thatcher”.

Mae Deian ap Rhisiart, neu’r rapiwr MC Saizmundo, yn dweud hyn wrth iddo ef ei hun ail-gydio yn y meic ar ôl tua dwy flynedd o dawelwch. Fe fydd yn perfformio nos Wener nesaf yn nhafarn Morgan Lloyd, Caernarfon.

“Er nad oes llawer o ganu gwleidyddol yn digwydd yn Gymraeg ar y funud, mater o amser ydi o nes bod pobol ifanc yn dechrau canu yn wleidyddol,” meddai wrth Golwg360.

“Deffro”

Fe ddywedodd fod dyfodiad llywodraeth glymblaid a’r argyfwng ariannol wedi gwneud pobol yn ymwybodol o’r “anghyfiawnder sy’n y byd”.

“Ers y 1990au, mae pobol wedi mynd yn apathetic, ond mae’r toriadau hyn yn erbyn y tlawd wedi deffro pobol i’r realiti.

“Mae’r blaid Geidwadol yn preifateiddio’r wlad trwy ddrws cefn, ac mae’r argyfwng economaidd yn esgus perffaith i ddilyn drwodd a gorffen be’ ddechreuwyd dan Margaret Thatcher,” meddai.

“Mae mwy o gyffro o gwmpas ar hyn o bryd, a mwy o awydd protest. Mae hynny’n dda i gerddoriaeth.”

Caernarfon a Bangor

Mae’r rapiwr yn credu bod Caernarfon a Bangor yn mynd i gael eu taro gan y toriadau, wrth i swyddi yn y sector cyhoeddus fynd.

“Sut all y Torïaid ddweud fod y sector preifat yn mynd i ysgwyddo’r baich, tra bod y sector honno yn ddibynnol ar gytundebau yn y sector gyhoeddus?” meddai.

“Bydd trefi fel Caernarfon yn cael ei hitio eto o ganlyniad i’r toriadau yma.

“Mi ddylian nhw sylweddoli fod y sector cyhoeddus yn cyfrannu miliynau i’r economi leol yn flynyddol, ac mae hynny i gyd dan fygythiad. Diolch byth ein bod wedi pleidleisio dros Gynulliad ym 1997, neu mi fase Cymru mewn gwaeth llanast hebddo fo.”

Mae’r canwr yn gobeithio rhyddhau albwm newydd dechrauy’r flwyddyn nesa’.