Cloriau creadigol EP newydd Violas
Nos Wener roedd y grŵp Violas yn rhyddhau eu EP cyntaf gyda gig arbennig yn Buffalo Bar, Caerdydd.

Er hynny, dim ond 15 copi ‘nifer cyfyngedig’ o’r CD ‘Hwylio//Sailing’ oedd ar gael i’w prynu yn y gig.

I ddweud y gwir roedd y lansiad yn dipyn o ddamwain yn dilyn camddealltwriaeth rhwng y band a lleoliad y gig.

“Ers yr haf ‘da ni wedi bod yn anelu i sortio EP allan ond ‘da ni wedi bod yn brysur yn sgwennu cwpwl o tiwns newydd a gweithio ar y set erbyn gŵyl Sŵn” meddai Owain Morgan o’r grŵp wrth Golwg360.

“Odda ni wedi dechra llechio syniadau at ei gilydd am glawr yr EP ac ati, ond heb roi dyddiad pendant ar gyfer ei ryddhau.”

“Cwpwl o wythnosau nôl fe wnaethon ni edrych ar wefan Buffalo Bar a sylwi bod ein gig ni ar yr 18 Tachwedd yn cael ei hysbysu fel ‘VIOLAS EP LAUNCH’ – roedden ni wedi hanner sôn y bydda ni’n gallu ei ddefnyddio fel lansiad ond heb gadarnhau.”

“Ar ôl gweld yr hysbyseb roedden ni’n meddwl y bydde’n well ni sortio rywbeth allan a rhyddhau’r EP yma!”

“Dwi’n meddwl mai hwn oedd y cic fyny’r pen ôl, a’r pwsh oedden ni angen i sortio fo. Ers hynny ‘da ni di bod fflat owt yn sortio pob dim a dwi meddwl fydd o werth yr ymdrech – ‘da ni’n hapus iawn efo beth ydan ni wedi ei gynhyrchu,” ychwanegodd Owain Morgan.

Cynlluniau EP rhanedig ‘ar y silff’

Mae’r EP yn cael ei ryddhau gan label Owlet Music – label sy’n cael ei redeg gan Owain Gwilym o’r grŵp Trwbador.


Violas ar glawr cylchgrawn Y Selar (Awst 2011)
Mewn cyfweliad â chylchgrawn Y Selar ym mis Awst eleni dywedodd aelodau’r Violas eu bod nhw’n paratoi i ryddhau EP rhanedig ar y cyd â Trwbador.

“Roedd y dair cân wedi eu recordio ddechrau’r haf gyda’r gobaith o’u rhoi nhw ar split EP efo Trwbador erbyn Steddfod,” eglura Owain.

“Ond oherwydd diffyg amser a commitments eraill oedd gan Trwbador a Violas wnaeth o ddim cweit digwydd.”

“Ar ôl yr Eisteddfod, gan fod Trwbador y brysur yn hyrwyddo eu EP ‘Sun in the Winter’, gath y penderfyniad i wneud i roi’r syniad split EP ar y silff, a’i bod hi’n well i ni gael y traciau allan dan EP ein hunain.”

Nifer cyfyngedig

Mae tri trac ar yr EP sef ‘Sea Shells’, ‘Lieutenant Trung’ a ‘Gwymon’ – un yn Saesneg, un yn Gymraeg a’r llall yn offerynol.

“Y bwriad efo’r enw ‘Hwylio//Sailing’ ydi bod ni’n dod a’r dair cân wahanol sef un Saesneg, un offerynol ac un Gymraeg at ei gilydd heb ffocysu ar un yn benodol nac unrhyw iaith” meddai Owain Morgan.

Mae tipyn o feddwl wedi ei roi i ddelwedd y CD newydd, ac mae dau fersiwn ar gael i’w prynu – sef fersiwn nifer cyfyngedig o 75 copi gyda gwaith celf arbennig, a fersiwn mwy syml gyda clawr mwy traddodiadol.

“Gyda’r clawr limited edition ‘da ni wedi transferio y gwaith celf ar ddefnydd sydd yn lapio o amgylch yr CD tu mewn – gyda’r fersiwn yma bydd bathodynnau Violas a sticeri o waith celf y clawr yn cael eu cynnwys.”

Mae’r CDs ar gael i’w prynu yn gigs y Violas cyn y Nadolig, a byddan nhw hefyd ar gael o wefannau Owlet Music a Sadwrn.com o ddechrau Rhagfyr.

Gigs ar y gweill:

10 Rhagfyr – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (gydag Yr Ods)

13 Rhagfyr – Undertone, Caerdydd (gyda Netherfriends)

17 Rhagfyr – Bunkhouse, Caerdydd (gyda The Toy Band)

Gwymon gan Violas