Gruff Rhys
Mae’r cerddor amlwg, Gruff Rhys, wedi lansio apêl i ffeindio bag o’i offer sydd wedi mynd ar goll yng Nghaerdydd.

Fe aeth y bag ar goll yn ystod Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ac mae prif ganwr y Super Furry Animals yn cynnig gwobr arbennig i unrhyw un sy’n dod o hyd iddo.


Bag tebyg i'r un a gollwyd
“Yn ystod yr Ŵyl Sŵn gwych yng Nghaerdydd yn ddiweddar, fe wnes i golli bag melyn oedd â’r enw eironig ‘Bag For Life’ arno” meddai Gruff Rhys ar ei wefan swyddogol, The Gruffington Post.

“Roedd yn llawn o offer cerddorol egsotig yn cynnwys dec recordiau Neumark, blwch Shitri Indiaid,  recordiau effeithiau sain BBC, bwndel o geblau arbennig, pedal muff fuzz, tiwniwr gitâr a 2 gan o lagyr Ewropeaidd cryf!”

Fe gollwyd y bag ar ôl set gan Y Niwl ym mar Gwdihw yn y ddinas, ac fe “allai fod yn unrhyw le” yn ôl Gruff.

Mae gwobr i unrhyw un sy’n dychwelyd y bag, sef recordiau finyl prin, ac mae modd cysylltu trwy ebostio yma.