Yr Ods
Mae Yr Ods yn rhyddhau eu halbwm llawn cyntaf, Troi a Throsi, heddiw ac yn gobeithio bod y record yn adlewyrchu sŵn byw’r grŵp yn fwy nag eu EP diwethaf.

Mae’r grŵp pum aelod wedi mynd o nerth i nerth ers ffurfio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2006, a bellach wedi sefydlu eu statws fel un o grwpiau mwyaf y sin Gymraeg.

Er eu bod nhw wedi rhyddhau senglau, ac EP 5 trac poblogaidd flwyddyn yn ôl, mae’r grŵp wedi oedi cyn rhyddhau’r albwm llawn mae eu ffans wedi bod yn crefu amdano.

“Dwi’n meddwl petai ni wedi rhyddhau albwm tua dwy flynedd yn ôl byddai wedi bod yn siomedig,” meddai un o’r aelodau Griff Lynch wrth Golwg360.

“Mae ‘na fandiau eraill mor dda sy’n rhyddhau albyms mor safonol ar hyn o bryd – fysa’n gas gennai ryddhau albwm sydd ddim cystal ag albyms Cymraeg eraill ar hyn o bryd.”

“Rydan ni wedi cael tair neu bedair blynedd efo’n gilydd rŵan [yr aelodaeth bresennol] ac roedden ni’n gweld yr amser yn iawn,” ychwanegodd y gitarydd a chanwr.

Ffeindio man canol

Roedd yr EP a ryddhawyd ar label Copa llynedd yn rhannu enw’r grŵp, ac roedd y caneuon yn cael eu gyrru gan synau synth seicadelig a retro.

Gyda’r albwm newydd, mae’r grŵp wedi mynd yn ôl ychydig i’w sŵn gitâr gwreiddiol ond gan hefyd gynnig digon o amrywiaeth i sicrhau nad yw’r casgliad yn undonog a diflas.

“Dwi’n meddwl bod ni wedi ffeindio man canol rhwng y stwff cynnar a’r EP diwethaf,” meddai Griff Lynch.

“Efo’r EP, roedd ‘na gymaint o synths o’n cwmpas ni fe wnaethon ni fynd amdani, ond rydan ni wedi cael hynny allan o’r system rŵan.”

“Rydan ni wedi trio gwneud i’r albwm swnio’n debyg i sut rydan ni’n swnio’n fyw – llai o synths a mwy o gitars.”

Cyfanwaith

Mae nifer o ganeuon yr EP diweddaraf wedi dod yn rai adnabyddus, ond yn ôl Griff, mae’r albwm newydd yn fwy o gyfanwaith nag oedd yr EP hwnnw.

“Doedd yr EP ddim yn swnio fel cyfanwaith – roedd yn swnio mwy fel rhestr o senglau.”

“Fe wnaethon ni drafod hyn efo Dave [Wrench, y cynhyrchydd] a chytuno fod angen i’r albwm swnio’n fwy fel casgliad a chyfanwaith.”

A bod cymaint o edrych ymlaen at yr albwm, mae’r cwestiwn yn codi os mai Yr Ods ydy band mwyaf y sin Gymraeg erbyn hyn … “O ia, wrth gwrs” ydy ateb Griff a’i dafod yn ei foch cyn difrifoli.

“Dwi ddim yn siŵr am hynny, ond dwi’n eithaf ffyddiog mai hwn ydy’n cynnyrch gorau ni hyd yn hyn – rydan ni’n hapus iawn efo fo.”

Mae albwm cyntaf Yr Ods, Troi a Throsi, allan ar label Copa heddiw 14 Tachwedd.

Gallwch wrando draciau Troi a Throsi isod

Yr Ods – Troi a Throsi gan label_copa