Euros Childs
Mae Euros Childs wedi cyhoeddi ar ei wefan swyddogol heddiw ei fod am ryddhau albwm newydd yn ystod y mis nesaf.

Yn ôl y cyfansoddwr amryddawn, bydd ‘Ends’ ar gael i’w brynu ym mis Tachwedd gydag opsiwn i lawr lwytho am ddim wrth ei brynu.

Daeth Childs i amlygrwydd y byd cerddorol fel prif ganwr y grŵp seicadelig Gorky’s Zygotic Mynci.

Ers i’r grŵp chwalu yn 2006 mae wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist solo, ac ‘Ends’ fydd ei seithfed albwm solo.

Yn fwy diweddar mae Childs wedi bod yn canolbwyntio ar brosiect Jonny gyda Norman Blake, gynt o Teenage Fanclub.

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ei wefan, mae Euros Childs wedi datgelu fod ei chwaer, Megan wedi cyfrannu at yr albwm newydd ar y fiolín – newyddion sy’n siŵr o gyffroi ffans o’r Gorky’s.