Fe wnaeth Camila Cabello berfformio cân a gafodd ei chyd-ysgrifennu gan Amy Wadge yn ystod seremoni wobrwyo’r Grammys neithiwr, wrth i Billie Eilish gipio’r prif wobrau i gyd.

Mae ‘First Man’ yn trafod perthynas Camilo Cabello a’i thad, Alejandro oedd yn bresennol yn y seremoni ac yn ei ddagrau wrth i’w ferch ganu.

Mae’r gân, sy’n ymddangos ar yr albwm Romance, yn trafod pryder ei thad am ei chariad newydd, a’r gred yw mai’r canwr Shawn Mendes yw hwnnw.

Mae Amy Wadge, sy’n byw yn ardal Pontypridd ac sy’n briod â’r actor Alun ap Brinley, wedi cydweithio â nifer o sêr y byd cerddoriaeth gan gynnwys Kylie Minogue, Ed Sheeran, John Legend, James Blunt a Sheridan Smith.

Billie Eilish yn cipio’r prif wobrau

Prif enillydd noson y Grammys oedd Billie Eilish, wrth iddi gipio pedair prif wobr y noson – yr albwm, y gân, y record a’r artist newydd.

Dyma’r tro cyntaf i rywun gyflawni’r gamp honno ers i Christopher Cross gipio’r gwobrau i gyd yn 1981.

Perfformiodd hi’r gân When The Party’s Over yn ystod y seremoni.

Roedd teyrngedau hefyd i Kobe Bryant, y chwaraewr pêl fasged fu farw dros y penwythnos, ac i’r canwr Prince fu farw yn 2016.

Cafodd y seremoni ei chyflwyno gan y gantores Alicia Keys.