Mae’r band Pys Melyn o Ben Llyn wedi ennill grant Prosiect 2020 Cwmni Theatr y Frân Wen.

Roedd Frân Wen yn rhoi cyfle i bobl rhwng 16-25 oed bitsio am gyllideb o £2020 i ddod a’u syniad yn fyw – boed hynny’n theatr, arddangosfa, eitem ar-lein, neu gig.

Pys Melyn ddaeth i’r brig wedi iddynt bitsio syniad o greu “digwyddiad byw creadigol yn ymwneud â newid hinsawdd.”

Dywed Jac Williams, syn chwarae gitâr fas i Pys Melyn wrth golwg360: “Mi ddaru ni glywed amdano fo drwy PYST, ac roedden ni’n gweld cyfle i wneud rhywbeth reit artistig a chreadigol efo’r grant.” 

“Da ni wedi bod yn arbrofi efo elfennau gweledol yn sets ni ers dipyn, felly roedden ni’n meddwl y basa hwna’n avenue da i fynd lawr,” eglura Jac Williams.

“Cynnal gig aml-gyfryngol ydi’r syniad ddaethom ni fyny hefo fo, a chael newid hinsawdd fel thema’n rhedeg drwyddo fo, ond dio ddim am fod rhu in your face, mi fydd o’n fwy artistig ag abstract.”

“Mae criw Pys Melyn mor greadigol”

Un o aelodau’r panel oedd yn penderfynu pwy oedd yn ennill y grant oedd Elan Evans.

Dywedodd hi wrth golwg360 pam mai Pys Melyn ddaeth i’r brig.

“Roedd pob un cyflwyniad yn wahanol, lot o syniadau difyr ac unigryw,” eglura Elan Evans.

“Ond roedd un Pys Melyn yn sefyll mas achos roedden ni’n meddwl am yr hir dymor a beth oedden nhw’n mynd i’w wneud gyda’r offer aballu ar ôl y prosiect yma. 

“Mae criw Pys Melyn mor greadigol a gweithgar roedden ni’n teimlo ar ôl iddyn nhw orffen hwn, byddai dim stop arnyn nhw.”