Mae Maes B wedi trefnu dwy gig – un yn y gogledd a’r llall yn y de – i wneud fyny am y ffaith eu bod nhw wedi gorfod canslo perfformiadau gan fandiau adeg Steddfod Llanrwst ym mis Awst.

Cafodd gigs nos Wener a nos Sadwrn Maes B y Steddfod eu canslo oherwydd gofidion am effaith gwynt a glaw cryf ar y babell lle’r oedd y perfformio i fod i ddigwydd.

Canslo gigs Maes B nos Wener a nos Sadwrn

Dwy gig – Caerfyrddin a Wrecsam

Bydd y gig gyntaf yn y gyfres ‘Plan B’ cael ei chynnal yn Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerfyrddin ar Ragfyr 13, gyda Wigwam, Papur Wal, Adwaith, Mellt a DJ Elan Evans yn perfformio.

Bydd gig gogleddol ‘Plan B’ ar Ragfyr 14 yn Nhŷ Pawb, Wrecsam, gyda 3 Hŵr Doeth, Lewys, Los Blancos, Gwilym a DJ Pyst yn dy Glust.

Mae’r gigs yn rhai 16+ ac mae tocynnau ar gael am £8 ar wefan maesb.com.

Dwy gig mewn un noson

Bydd criw hip-hop 3 Hŵr Doeth yn hopian o un gig i’r llall ar Ragfyr 14.

Ar ôl iddyn nhw berfformio yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam mae disgwyl i’r band yrru yn syth i Neuadd Hendre ar gyrion Bangor i berfformio gyda Mellt, KIM HON a Pys Melyn.