The Stone Roses
Mae’r grŵp roc, The Stone Roses wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn ail-ffurfio, gyda pherfformiadau byw a chaneuon newydd ar y gweill.

Fe chwalodd y grŵp yn 1996 ac roedd yr aelodau wedi wfftio awgrymiadau y byddan nhw’n ail-ffurfio.

Ond heddiw fe gyhoeddodd y grŵp y byddan nhw’n chwarae yn Heaton Park ym Manceinion blwyddyn nesaf, gyda dyddiadau eraill mewn mannau ar hyd a lled y byd.

Dywedodd y gitarydd John Squire ei fod o a’r canwr Ian Brown wedi cwrdd yn angladd mam y  basydd  Gary “Mani” Mounfield,  a bod cyfarfod ag Ian eto wedi “newid popeth”.

Dywedodd Ian Brown, a fu unwaith yn byw yn Llithfaen ger Pwllheli, mai bwriad y grŵp oedd “herio’r byd.”

Ar ôl clywed y newyddion am yr aduniad dywedodd Liam Gallagher ar Twitter nad oedd wedi bod mor hapus ers i’w blant gael eu geni.