Mae Gŵyl Sŵn yn dechrau yng Nghaerdydd heddiw (Hydref 18) gyda nifer fawr o fandiau Cymraeg yn perfformio mewn lleoliadau ledled y ddinas.

Wrth edrych ymlaen at benwythnos o gerddoriaeth yn y Brifddinas mae golwg360 wedi bod yn siarad efo rhai o’r bandiau fydd yn perfformio.

Un band sydd yn brysur iawn yn ystod Gŵyl Sŵn yw Hyll gan eu bod yn gigio yn nhafarn O’Neills heno (Hydref 18) am 8:15 ac yn yr Old Market Tavern ddydd Sadwrn (Hydref 19) am 8:15 yr hwyr.

“Tydan ni erioed wedi chwarae Sŵn o’r blaen ac rydan ni’n buzzing i gael bod yn rhan ohono,” meddai canwr a chwaraewr gitâr y band Bedwyr Ab Ion.

“Fi rili eisiau gweld Buzzard Buzzard Buzzard achos maen nhw wedi cael sylw yn ddiweddar ac rydan ni wedi chwarae gigs efo nhw o’r blaen.”

Band arall sy’n chwarae yw Kim Hon sydd wedi cyhoeddi’r sengl ‘Nofio efo’r Fishis’ heddiw (Hydref 18).

“Rydan ni’n headlinio The Moon nos Sul, a dw i wedi cyffroi am hynny achos tydan ni erioed wedi chwarae yn The Moon,” meddai canwr y band Iwan Fôn.

“Mae ganddo ni slot tua’r un pryd â Bill Ryder-Jones, sy’n cŵl. A dw i am fynd i wylio Tri Hŵr Doeth sy’n headlinio Fuel nos Sadwrn.”