Ffilm ddogfen am gerddoriaeth Gymraeg a arweiniodd y ffordd gyda phedair gwobr yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru neithiwr (nos Sul, Hydref 13).

Daeth Anorac i’r brig yng nghategorïau’r ‘Cyflwynydd’ – sef y DJ Huw Stephens – ‘Golygu’, ‘Ffotograffiaeth: Ffeithiol’ a ‘Sain’.

Cafodd 26 o wobrau eu cyflwyno gerbron 1,000 o westeion yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Yn y categorïau perfformio, enillwyd gwobr yr Actores Orau gan Gabrielle Creevey am ei rôl yn In My Skin, a enillodd y categori Drama Deledu hefyd.

Cyflwynwyd gwobr yr Actor Gorau i Celyn Jones am bortreadu ‘Levi Bellfield’ yn nrama ITV Manhunt, gyda’i chyfarwyddwr, Marc Evans, yn cipio gwobr y Cyfarwyddwr: Ffuglen.

Cafodd ffilmiau a wnaed yng Nghymru eu cynrychioli’n dda eleni hefyd, gyda’r Wobr Ffilm Nodwedd/Deledu yn mynd i Last Summer.

Enillodd yr awdur a’r cyfarwyddwr, Jamie Jones, wobr ‘Torri Trwodd’, tra derbyniodd ffilm nodwedd a leolwyd yn Eryri, Gwen, ddwy wobr am Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen, a Dylunio Gwisgoedd.

Derbyniodd ffilm nodwedd Netflix, Apostle, ddwy wobr hefyd am Golur a Gwallt ac Effeithiau Arbennig a Gweledol.

Enillodd unigolion o Gymru a fu’n gweithio ar gynyrchiadau yn y Deyrnas Unedig wobrau hefyd, gan gynnwys Catrin Meredydd (Black Mirror: Bandersnatch) a Russell T Davies (A Very English Scandal).

Yn y categorïau ffeithiol, roedd iechyd yn thema gyffredin ymhlith y buddugwyr. Enillodd Mei Williams y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol am The Incurable Optimist, tra chipiodd Velindre – Hospital of Hope y wobr Cyfres Ffeithiol a Critical: Inside Intensive Care y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol.

Enillwyd y wobr Rhaglen Blant gan Going for Gold a’r wobr Rhaglen Adloniant gan Priodas Pum Mil. The Universal Credit Crisis gan BBC Wales/BBC One a enillodd y wobr Newyddion a Materion Cyfoes.

Enillydd y wobr Ffilm Fer oedd Lowri Roberts ar gyfer Girl.

Yr enillwyr

Rhaglen Adloniant – Priodas Pum Mil

Drama Deledu – In My Skin

Newyddion a Materion Cyfoes – The Universal Credit Crisis

Ffotograffiaeth: Ffeithiol – Joni Cray a Gruffydd Davies ar gyfer Anorac

Rhaglen Ddogfen Unigol – Critical: Inside Intensive Care

Ffilm Fer – Girl

Torri Trwodd – Jamie Jones

Golygu – Madoc Roberts ar gyfer Anorac

Cyfarwyddwr: Ffeithiol – Mei Williams ar gyfer The Incurable Optimist

Cyfres Ffeithiol – Velindre – The Hospital of Hope

Gwobr Siân Phillips – Bethan Jones

Sain – Jules Davies ar gyfer Anorac

Cyflwynydd – Huw Stephens ar gyfer Anorac

Gêm – Time Carnage VR

Colur a Gwallt – Claire Williams ar gyfer Apostle

Dylunio a Chynhyrchu – Catrin Meredydd ar gyfer Black Mirror: Bandersnatch

Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen – Adam Etherington ar gyfer Gwen

Cyfarwyddwr: Ffuglen – Marc Evans ar gyfer Manhunt

Ffilm Nodwedd/Deledu – Last Summer

Awdur – Russell T Davies ar gyfer A Very English Scandal

Effeithiau Arbennig a Gweledol – Bait Studio ar gyfer Apostle

Rhaglen Blant – Going for Gold

Dylunio Gwisgoedd – Dinah Collin ar gyfer Gwen

Cyfraniad Eithriadol i Deledu – Lynwen Brennan, Lucasfilm

Actores – Gabrielle Creevy ar gyfer In My Skin

Actor – Celyn Jones ar gyfer Manhunt