Mae’n “anhygoel” bod band o Gymru yn cefnogi mawrion y byd roc yn Llundain heddiw, yn ôl sylwebydd cerddoriaeth Gymreig.

Mae Boy Azooga, band o Gaerdydd, ymhlith y bandiau sy’n cefnogi Neil Young a Bob Dylan o flaen torf o 65,000 yn Hyde Park yn Llundain.

Roedd artistiaid gan gynnwys Sam Fender, Cat Power a Laura Marling hefyd ymhlith y rheiny a fu’n perfformio, ac yn ôl Elan Evans mae’n braf bod y rocyrs o Gymru wedi ennill eu lle ar y llwyfan.

“Mae’n anhygoel,” meddai wrth golwg360. “Dyna mae’r rhan fwyaf o fandiau yn anelu ato. Dim ond nifer bach sy’n cyrraedd y lefel yma lle maen nhw’n medru mynd i chwarae gigs anferth.

“Mae’n neis gweld rhywbeth mor anhygoel â hyn yn digwydd i fand sydd wirioneddol yn bobol really ffein. Maen nhw mor lyfli. Maen nhw’n griw o fechgyn really really neis!”

Boy Azooga

Davey Newington yw sefydlydd a chyfansoddwr y band, ac yn ymuno ag ef yn fyw mae Sam Barnes, Dylan Morgan a Dafydd Davies.

Cafodd eu halbwm cyntaf, 1, 2 Kung Fu,  ei chyhoeddi’r llynedd.