Mae rhai o gefnogwyr y Spice Girls wedi cwyno am broblemau sain yn ystod eu cyngerdd yn y brifddinas neithiwr (nos Lun, Mai 27).

Roedd yr ymweliad â Stadiwm y Principality yn rhan o daith y grŵp pop o gwmpas gwledydd Prydain ac Iwerddon.

Ers neithiwr, mae llawer cefnogwr wedi dweud nad oedden nhw’n gallu clywed y gerddoriaeth yn dda oddi fewn i’r stadiwm.

Daw yn dilyn cwynion tebyg yn ystod y gyngerdd yn Croke Park, Dulyn, rai diwrnodau ynghynt, gydag un o aelodau’r grŵp, Mel B, yn dweud wedi’r noson ei bod hi’n gobeithio y bydd y sain yng Nghaerdydd yn “llawer gwell”.

Dywedodd un ffan siomedig ar y cyfryngau cymdeithasol fod y sain yn y gyngerdd neithiwr yn “ofnadwy”, tra bo un arall yn honni nad oedden nhw wedi gallu “clywed hanner” y gyngerdd.

Ond nid pawb oedd yn cytuno â’r farn honno, gyda rhai’n dweud nad oedden nhw wedi profi yr un broblem sain, a bod y noson wedi bod yn un “ffantastig”.