Fe fydd cerddorion Cymraeg yn cael y cyfle i berfformio yn Glasgow, Manceinion a Llundain yn ddiweddarach eleni, mewn cynllun peilot i hyrwyddo eu miwsig.

Cwmni dosbarthu PYST sydd yn gyfrifol am y cynllun fydd yn anfon naw artist i’r dinasoedd yn ystod misoedd Medi, Hydref a Thachwedd eleni.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mae PYST wedi bod yn cydweithio gyda rhai o brif hyrwyddwyr y dinasoedd hynny.

Trwy gydweithio a chwmniau DF Concerts yn Glasgow, Now Wave ym Manceinion, a Bird on The Wire yn Llundain y bwriad yw creu platfform i artistiaid Cymraeg y tu allan i Gymru, gan amlygu’r talentau sydd yn bodoli yma.

Adwaith fydd yn arwain y daith gyntaf ym mis Medi gyda Mellt a Papur Wal yn cefnogi.

“Budd o chwarae yn y dinasoedd”

“Ein nod yw gweithio ar gynlluniau marchnata gyda’r hyrwyddwyr lleol fel bod yr artistiaid yn cael budd o chwarae yn y dinasoedd a datblygu cynulleidfa ehangach gyda hyrwyddo lleol,” meddai Ffion Strong sy’n arwain prosiectau byw a chyngherddau yn PYST.

“Ar yr un pryd hyderwn y bydd y nosweithiau yn cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd, yn ogystal ag i dri o hyrwyddwyr gorau Lloegr a’r Alban, gyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.”

Dim ond blwyddyn yn ôl sefydlwyd PYST ac mae hi bellach yn gwmni dosbarthu i dros 40 o labeli yng Nghymru.

Gyda help ariannol gan Lywodraeth Cymru mae hi’n cydweithio gydag amrywiaeth o hyrwyddwyr drwy Gymru er mwyn cydlynu nifer o deithiau a gigs i artistiaid y wlad.