Fe fydd fersiwn newydd o’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ yn cael ei rhyddhau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd eleni.

Mei Gwynedd sy’n gyfrifol amdani, ac mae’r recordiad yn cynnwys 2,000 o leisiau plant ysgolion cynradd Caerdydd a’r Fro.

Cafodd ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf heddiw (dydd Mercher, Mai 1) ar raglen Dafydd a Caryl ar Radio Cymru 2, ac mi fydd ar gael i’w lawrlwytho ar Fai 10.

Bydd y fersiwn newydd yn cael ei pherfformio’n gyhoeddus am y tro cyntaf ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn ystod cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod ar Fai 26.

Hanes y gân

Cafodd y gân ei chyfansoddi’n wreiddiol yn 1977 gan Geraint Davies, a oedd yn aelod o’r band Hergest.

Roedd yn gweithio i Adran Eisteddfod yr Urdd yn Aberystwyth ar y pryd, ac fe gafodd e gais gan Wynne Melville Jones i’w chyfansoddi i gyd-fynd â lansio’r cymeriad cartŵn newydd.

Geraint Davies ac Emyr Wyn ganodd y fersiwn wreiddiol, ynghyd â disgyblion Ysgol Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgol Pont-y-gwaith yn y Rhondda.

Mae gwahanol fersiynau wedi’u rhyddhau ers hynny, gan gynnwys Cymraeg Cic (2002) a Rapsgaliwn (2011).

‘Lot o hwyl!’

“Mae wedi bod yn lot o hwyl, jest lot o hwyl!” meddai Mei Gwynedd. “Mae wedi bod yn bleser gweithio hefo’r plant a maen nhw wedi mwynhau canu’r gân hefyd, felly mae’n grêt.

“Mae’n anrhydedd, yn fraint cael gweithio ar y gân achos dwi wedi tyfu i fyny hefo’r gân fy hun.

“Hefyd, mae’n grêt dod i’r ysgolion gwahanol ac mae’r plant yn gwybod y gân, gwybod y gytgan felly ’di o ddim yn cymryd bron ddim iddyn nhw gydio ynddi a mwynhau a dawnsio a chanu.”

Tinc modern 

“Dyw e ddim wedi ei newid lot fawr ond mae ‘na dinc modern iddi nawr, a ma’ ishe hynny ar ôl 40 mlynedd!” meddai Geraint Davies, “ond mae crynswth y gân yr un peth.

“Rwy’n synnu’n gyson bod y gân wedi para mor hir ac yn dal yn fyw i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant.

“Roedd clywed am fersiwn newydd eto ohoni’n wefr ac yn achos y balchder rhyfedda’!”