Huw Stephens
Cafodd rhestr hirfaith o feirniaid ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei datgelu yr wythnos hon – panel a fyddai’n herio’r pundit cerddorol craffaf.

Yn ôl un o sylfaenwyr y wobr, y cyflwynydd a’r DJ Huw Stephens, mae’r beirniaid wedi cael eu dewis o blith cannoedd “oherwydd eu rôl gweithgar a phwysig wrth hyrwyddo, rheoli, meithrin a chefnogi cerddoriaeth.”

Mae’r panel yn cynnwys DJ, newyddiadurwr ar gerddoriaeth, trefnwyr bandiau rhai o ŵyliau mwyaf Prydain, a pherchnogion labeli recordio.

“Mae pob beirniad yn dod ag arbenigedd a hygrededd i’r wobr,” meddai Huw Stephens, “a bydd pob beirniad yn cael eu holi i ddewis eu hoff albwm o’r rhestr fer.”

Y beirniaid ar y panel eleni fydd:

Ashli Todd – un o berchnogion Spillers Records

Bethan Elfyn – cyflwynwraig a DJ ar BBC Radio Wales
Dai Davies – datblygwr yn y diwydiant gerddoriaeth, aelod o Gyngor y Celfyddydau yng Nghymru, a Llywodraethwr yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru

David Exley – asiant trefnu bandiau gyda Coda Music Agency

Jude Rogers – newyddiadurwr i nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys The Guardian, The Word, New Statesman a’r BBC, mae hefyd wedi bod yn feiriniad ar banel y Mercury Music Prize ers 2007

Mike Williams – dirprwy olygydd y cylchgrawn NME

Neil Pengelly – prif drefnydd gŵyliau Reading a Leeds

Stephen Bass – cyd-sylfaenydd Moshi Moshi Records

Tom Baker – sylfaenydd cwmni hyrwyddo cerddoriaeth Eat Your Own Ears

Yvonne Matsell – cyd-sylfaenydd gŵyl gerddoriaeth NXNE yng Nghanada.

“Mae’r beirniaid mor amrywiol â’r albymau sydd wedi eu henwebu,” meddai Huw Stephens, “ac ry’n ni’n edrych ymlaen i glywed y canlyniad ar 21 Hydref.”

Bydd enillydd y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig cyntaf erioed yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yn ystod Gŵyl Sŵn eleni, ar 21 Hydref yn y Kuku Club, Caerdydd.

Mae rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni yn tynnu cerddorion o bob math at ei gilydd, o’r Manic Street Preachers i Colarama, o’r Niwl i Lleuwen Steffan. Yr amcan, yn ôl Huw Stephens, yw bod hyn yn gyfle i ddathlu cerddoriaeth Gymreig ifanc ar draws ystod o genres.

Dyma’r rhestr fer ar gyfer yr albwm gorau eleni:

Al Lewis – In The Wake [ALM]

Colorama – Box [See Monkey Do Monkey Records]

Funeral For A Friend – Welcome Home Armageddon [Distiller Records]

Gruff Rhys – Hotel Shampoo [Ovni/Turnstile Music]

Lleuwen – Tân [Gwymon]

Manic Street Preachers – Postcards from a Young Man [Sony]

Stagga – The Warm Air Room [Rag and Bone Records]

Sweet Baboo – I’m a Dancer/Songs About Sleepin’ [Shape Records]

The Blackout – Hope [Cooking Vinyl]

The Gentle Good – Tethered for the Storm [Gwymon]

The Joy Formidable – Big Roar [Atlantic Records]

Y Niwl – Y Niwl [Aderyn Papur]


Mae mwy o wybodaeth am y wobr i’w gael ar y wefan: http://welshmusicprize.com