Mae prif leisydd y grŵp The Prodigy, Keith Flint , wedi marw yn 49 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i’w gartref yn Essex yn gynnar fore heddiw (Dydd Llun, Mawrth 4). Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

“Cawsom ein galw yn dilyn pryder ynglŷn â lles dyn mewn eiddo yn Brook Hill, North End, ychydig wedi 8.10yb ar ddydd Llun, Mawrth 4,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Essex.

“Fe aethon ni yno ac, yn anffodus, roedd y dyn 49 oed wedi marw yn y fan a’r lle.”

Roedd The Prodigy yn enwog am ganeuon fel Firestarter a Breathe ac yn adnabyddus am gymysgu tecno, brecbît ac acid house.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd aelodau The Prodigy eu bod yn cofio Keith Flint fel “gwir arloeswr”.