Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i Texas Radio Band ryddhau eu halbwm diwethaf, ond heddiw mae’r band yn lansio’u halbwm newydd – Bluescreen – sy’n addo cymysgedd arbrofol arall o gerddoriaeth gan y grŵp o Sir Gaerfyrddin.

Casgliad o 10 cân wedi eu recordio dros gyfnod o flwyddyn a hanner yw Bluescreen, gan fand sy’n cymryd eu hamser rhwng bob albwm – ond sydd â’r gallu i greu pethau da gyda’r amser hwnnw.

Mae Bluescreen yn crynhoi casgliad o ganeuon electronig, arbrofol, gydag ychydig o bop, ond sy’n llwyddo i gadw naws gweddol hamddenol drwy’r cyfan.

Yn ôl drymiwr y band, Gruff Ifan, mae’r albwm diweddara yn gasgliad o ganeuon “eitha’ gwahanol i’w gilydd – rhai’n ara’ a chilled out a rhai eraill bach mwy poppy.

“Ond mae e mwy electronic na beth ma’ Texas Radio Band wedi neud yn y gorffennol.”

Dyma drydydd albwm hir y grŵp, ar ôl Baccta Crackin (Slacyr Record) yn 2004, a Gavin (Peski Records) yn 2008.

Mae’r albwm diweddaraf wedi cael ei recordio ym milltir sgwâr y band o Sir Gaerfyrddin, yn Stiwdios Aeriel, ym Mrechfa – sef  stiwdio y cerddor Tim Lewis, gynt o’r band Spiritualised.

“Wnaethon ni dreulio lot mwy o amser yn y stiwdio gyda’r albwm yma,” meddai Gruff Ifan wrth Golwg 360, “a dwi’n meddwl bod ansawdd y sŵn yn dda oherwydd hynny.”

Ond dim ond ar ffurf digidol y bydd gwrandawyr yn gallu cael gafael ar yr albwm newydd am y tro, a bydd modd ei lawrlwytho ar wefannau iTunes, Amazon a Spotify ar ôl heddiw.

Does dim cynlluniau gan y band i gyhoeddi cryno ddisg o’r caneuon, ond maen nhw’n gobeithio y bydd nifer cyfyngedig o recordiau feinyl o’r albwm yn cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.

Mae’r band yn gobeithio dod yn ôl at ei gilydd yn gynnar yn 2012 – ar hyn o bryd mae’r prif leisydd yn byw yn Sbaen, a’r allweddellwr yn gweithio’n Awstralia – er mwyn gwneud taith i gyd-fynd â rhyddhau Bluescreen.

Yn y cyfamser, mae mwy o wybodaeth am y band a’r gerddoriaeth ar gael ar eu gwefan, sy’n cael ei lansio heddiw, www.texasradioband.com, gyda sï bod gig gan y band yn mynd i gael ei ddarlledu’n fyw ar y wefan rhwng nawr a’r Nadolig.