Fe ryddhaodd Mark Roberts, cyn canwr Y Cyrff a gitarydd Catatonia, ei albwm newydd ‘Oesoedd’ ar ddiwedd y llynedd o dan yr enw Mr, ac fe fydd cyfres o gigs yn ei hyrwyddo yn dechrau nos Sadwrn (Chwefror 9) yn Llanrwst.

Fe werthodd holl gopïau’r albwm newydd, Oesoedd, o fewn wythnos ar ôl iddo gael ei ryddhau ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae Mark Roberts yn “edrych ymlaen yn fawr” at fentro ar lwyfannau Cymru unwaith eto o dan yr new ‘Mr’.

“Mae’r ymateb i fy albwm wedi bod yn anhygoel,” meddai “a dwi’n awyddus iawn i chwarae’r caneuon yn fyw. Mi fydda’ i hefyd yn canu hits a misses o fy ngyrfa dros y tri deg mlynedd diwethaf.”

Bydd y gig yn cael ei chwarae fel rhan o Ddydd Miwsig Cymru ac mae’n rhan o brosiect Menter Iaith Conwy i godi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth Cymraeg yn Sir Conwy, yn enwedig gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yno ym mis Awst.