Mae gyrfa gerddorol Betsan Evans yn un unigryw – fel y mae hi ei hun – a’r gamp ddiweddaraf mae’r cerddor wedi ei wneud yw creu cân Nadolig y flwyddyn.

‘Cofia’ yw enw’r gan, sy’n cario “neges eithaf syml” ynglŷn â’r “pethau bach yn ystod y Nadolig”, yn ôl y gantores.

Dros y blynyddoedd mae Betsan wedi ymddangos gyda bandiau fel Genod Droog, Freshold, Kookamunga, Y Gwdihws, Alcatraz, Panics a Daniel Lloyd a Mr Pinc.

Yn fwy diweddar, fe gyrhaeddodd Betsan rownd derfynol Can i Gymru yn 2016 gyda’i chan serch i’w gwraig, ‘Eleri’.

Nawr mae hi wedi mentro ar ei phen ei hun am y tro cyntaf gyda chan gwahanol ei sain.

‘Cofia’

“Mae’r geiriau yn eithaf hiraethus, mae fe fel fy mod i’n edrych yn ôl ar fy mhlentyndod ac yn edrych yn ôl ar ba mor hudolus oedd y Nadolig i fi,” dywedodd Betsan wrth golwg360.

“Mae hi fel bod fy Mam yn dweud y stori i fi neu i ryw blentyn. Dwi’n gobeithio y gallai ddod ag atgofion melys yn ôl o blentyndod pobol o’r Nadolig.

Wrth wrando ar y gân, a gafodd ei gynhyrchu gan y cerddor Steffan Rhys Williams, mae teimlad fel petae’r llais yn adrodd stori o flaen y synau Nadoligaidd traddodiadol.

“Ro’n i moen synau syml i fod yn y cefndir fel clychau Nadoligaidd i roi’r naws Nadoligaidd.

“Mae e fel bod ’na gerddorfa yn dawel tu ôl i riff y gitâr a’r llais a hwnna fel sa’ fe’n cyfleu paratoad at y Nadolig.”

Cafodd y gan ei recordio gyda Recordiau Sienco ac mae tad Betsan, y  cerddor jazz Cenfyn Evans, yn chwarae’r corn ffliwgal.

Dyma Betsan yn esbonio’r neges sydd tu ol i’w chan Nadolig: