Mae Dewi Pws yn dweud bod y profiad o gael ei anrhydeddu â doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe “fel bod yn Eisteddfod Hogwarts”.

Ac yntau’n enedigol o ardal Treboeth y ddinas ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Lon Las ac Ysgol Ramadeg Dinefwr, cafodd ei gyfraniad i fyd adloniant Cymraeg ei gydnabod gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol.

“Roedd hwn, fi’n credu, achos bo fi wedi sgwennu pethe yn Gymraeg, a bod yn idiot Cymraeg mewn bywyd,” meddai wrth golwg360 drannoeth y seremoni.

“Es i ddim i’r brifysgol. Es i i’r coleg hyfforddi yng Nghaerdydd [Cyncoed] i ddysgu bod yn athro, a wnes i ddysgu am ddwy flynedd yn Sblot.

“Oedd e’n anrhydedd fawr. Dw i’n credu mai Syr Roderick Evans oedd tu ôl y peth. O’n i’n nabod e yn yr ysgol. Mae e’n ‘Syr’ nawr, yn Gymro pybyr ac maen nhw’n trio Cymreigeiddio’r Brifysgol yn Abertawe, so o’n nhw eisie Cymry i gymryd rhan, a doedd neb arall ar gael, so ges i fe!

“Mae byw yn Abertawe’n chwarae ar fy nerfau’ o’dd hi. Pan o’n i’n byw ’ma, o’n i eisie mynd o ’ma. Ond rhaid i fi ddweud, mae Abertawe’n mynd lan a’r Brifysgol yn wych. Mae 20,000 o fyfyrwyr ’na lle’r oedd yr oil refineries.

“Mi o’dd y seremoni’n hollol ddwyieithog. Mae’n sinco mewn nawr ar ôl cael y peth. O’dd cannoedd o bobol yno, a llwythi o fyfyrwyr ar draws y byd yn cael eu graddau, a fi’r idiot yn cael ei urddo!”

Gyrfa

Mae Dewi Pws yn gerddor, cyfansoddwr bardd, awdur ac actor adnabyddus a phoblogaidd yn Gymraeg a Saesneg.

Fe wnaeth e serennu yn y ffilm rygbi ‘Grand Slam’ yn 1978, ac mae wedi ymddangos yng nghyfresi Taff Acre, Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.

Cafodd ei wobrwyo yn 2003 gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol am y gyfres ‘Byd Pws’.

Mae wedi ymddangos hefyd ar raglen Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru, a chael ei enwi’n Fardd Plant Cymru yn 2010.

Yn y byd cerddoriaeth, roedd yn un o aelodau gwreiddiol Y Tebot Piws, gan ymuno ag Edward H Dafis yn ddiweddarach, ac yna Radwm yn fwyaf diweddar.

‘Cymaint o anrhydedd’

Yn un o gannoedd o bobol yn y seremoni ar Gampws y Bae y Brifysgol, mae Dewi Pws yn cyfaddef nad oedd e’n sylweddoli “cymaint o anrhydedd” yw derbyn gradd.

“Pan ges i’r llythyr, o’n i’n meddwl ‘Neis iawn’. O’n i’n meddwl fydde llwyth o bobol yn cael y peth, ond dim ond fi oedd ’na.

“O’n mae’n anrhydedd fawr.”

Serch hynny, mae’n dweud na fydd y teitl ‘Dr’ yn mynd o flaen ei enw “heblaw bo fi yn Lloegr a galla’ i impresso’r Saeson!”

Wrth drafod y profiad o gael bod yn rhan o’r seremoni, mae’n dweud ei bod “fel bod yn yr Eisteddfod yn Hogwarts”.

“O’n i’n disgwyl i Harry Potter ymddangos unrhyw bryd. O’n i’n edrych fel prat yn yr het, ond dyna ni!”